wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Grymoedd

Total questions: 15

Worksheet time: 8mins

Name
Class
Date
1.

Pan mae rhywbeth yn teithio yn gyflymach dros amser, mae'n...

a)

cyflymu

b)

arafu

c)

aros ar fuanedd cyson

d)

llonydd

2.

Dyma'r grym sydd yn gweithredu pan mae arwynebau yn symud dros eu gilydd.

a)

Gwrthiant Aer

b)

Disgyrchiant

c)

Ffrithiant

d)

Grym Cydeffaith

3.

Pa werthoedd grym sydd yn disgrifio'r plymiwr awyr yn cwympo ar fuanedd cyson?

a)

500N i fyny - 700N i lawr

b)

700N i fyny - 500N i lawr

c)

500N i fyny - 500N i lawr

d)

0N i fyny - 0N i lawr

4.

Os mae grym P yn fwy na grym W, mae'r plymiwr awyr yn...

a)

cyflymu

b)

cwympo ar fuanedd cyson

c)

arafu

d)

llonydd

5.

Pa ymadrodd sydd yn disgrifio grym brigwth?

a)

Os mae grym pwysau yn fwy na gym disgyrchiant, yna mi fydd gwrthrych yn cyflymu.

b)

Mae egni gwres a sain yn cael eu cynhyrchu wrth i arwynebau llithro dros eu gilydd.

c)

Os mae pwysau'r dŵr sy'n symud yn hafal neu'n fwy na phwysau'r llong, yna mi fydd yn arnofio.

d)

Mae awyren yn hedfan oherwydd y ffordd mae gronynnau aer yn tarro'r adain.

6.

Ticiwch ddau ymadrodd sydd yn disgrifio grym disgyrchiant?

a)

Dyma’r grym sy’n tynnu gwrthrychau tuag at y Ddaear

b)

Dyma’r grym sy’n gwrthsefyll symudiad rhwng dau arwyneb sy’n cyffwrdd â’i gilydd.

c)

Wrth i wrthrych symud drwy’r aer, mae grym gwrthiant aer yn gweithredu yn y cyfeiriad dirgroes i’r mudiant.

d)

Mae’r Ddaear yn tynnu â grym o tua 10 newton ar bob cilogram o fàs.

7.

Mae parasiwtydd yn disgyn ar fuanedd cyson. Pa ymadrodd sy'n gywir?

a)

Grym disgyrchiant yn unig sy'n gweithredu arno.

b)

Grym gwrthiant aer yn unig sy'n gweithredu arno.

c)

Mae'r grym disgyrchiant yn fwy na'r grym gwrthiant aer.

d)

Mae'r grym disgyrchiant yn hafal i'r grym gwrthiant aer.

8.

Mae car sydd a grym gyrru i'r cyfeiriad ymlaen o 1000N, a grym gwrthiant aer i'r cyfeiriad yn ôl o 700N yn...

a)

Llonydd

b)

Cyflymu

c)

Arafu

d)

Teithio ar fuanedd cyson

9.

Mae roced yn pwyso 150,000N. Mae ganddi 3 injan sydd yn cynhyrchu grym hafal yr un. Er mwyn i'r roced hedfan, y grym lleiaf mae pob injan angen cynhyrchu yw...

a)

50,000N

b)

30,000N

c)

55,000N

d)

51,000N

10.

Pan mae plymiwr awyr yn agor ei barasiwt, mae'r grym gwrthiant aer tuag i fyny yn mynd yn enfawr. Mae hyn yn achosi i'r plymiwr awyr...

a)

parhau i gwympo ar fuanedd cyson

b)

parhau i gwympo yn gyflymach

c)

parhau i gwympo yn arafach

d)

hedfan yn ôl i fyny i'r awyr

11.

Mae coch yn tynnu gyda grym o 50N, ac mae glas yn tynnu gyda grym o 40N. Cyfrifwch y grym cydeffaith.

a)

50N i'r chwith

b)

10N i'r chwith

c)

40N i'r dde

d)

10N i'r dde

12.

7000N = ...

a)

700Kg

b)

70Kg

c)

7Kg

d)

7000Kg

13.

Cyfrifwch y grym cydeffaith sy'n gweithredu ar y plymiwr awyr.

a)

A) 600N. B) 500N. C) 0N

b)

A) 0N. B) 500N. C) 600N

c)

A) 600N. B) 700N. C) 1200N

d)

A) 0N. B) 700N. C) 600N

14.

Ar pa bwynt mae'r plymiwr awyr yn agor ei barasiwt.

a)

A

b)

B

c)

C

d)

Ch

15.

Mae'r car yn...

a)

Llonydd

b)

Teithio ar fuanedd cyson

c)

Cyflymu

d)

Arafu