Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Idiom

Total questions: 15

Worksheet time: 8mins

Name
Class
Date
1.

Lladd gwair

a)

Treulio amser sbar/ llenwi amser

b)

Lladd bywyd gwyllt

c)

Bod yn anghwrtais i rywun

2.

Cyntaf i'r felin caiff falu

a)

Y person cyntaf i fwyta

b)

Person lletchwith

c)

Y person cyntaf sy'n cyrraedd/ yn y ciw sy'n cael yr hyn mae e eisiau

3.

llyncu'r abwyd

a)

cymryd rhywbeth yn syth

b)

credu celwydd rhywun yn syth

4.

traed moch

a)

traed mawr

b)

traed mwdlyd

c)

gwneud llanast o rywbeth rydych wedi gwneud

5.

rhoi'r ffidil yn y to

a)

Gorffen y dasg

b)

Gorffen canu'r offeryn

c)

Gorffen y darn olaf o rywbeth

d)

Rhoi lan ar dasg

6.

cerdded yn ling di long

a)

cerdded yn agos at yr ochr

b)

cerdded gyda pherson dieithr

c)

cerdded yn araf ac yn hamddenol

d)

cerdded gyda phwrpas

7.

gwneud eich gorau glas

a)

gwneud y gorau ag y gallwch chi

b)

twyllo pobl eich bod chi wedi gwneud rhywbeth yn iawn

c)

gwneud y gorau o'ch dosbarth

8.

man a man a mwnci

a)

pam lai (may as well)

b)

mae dyn yn debyg i unrhyw anifail arall

c)

mae dyn yn debyg i fwnci

d)

pam ddim ymddwyn fel mwnci (yn ddwl)

9.

ar bigau'r drain

a)

mewn lle anghyfforddus

b)

yn aros am rywbeth yn nerfus

c)

mewn trafferth

10.

crynu yn ei sgidiau

a)

yn oer

b)

yn gyffrous

c)

yn ofnus

11.

uchel ei gloch

a)

yn canu cloch

b)

yn uchel ar ben adeilad

c)

yn berson swnllyd, siaradus

d)

yn hyderus

12.

pwyso a mesur

a)

dod i adnabod rhywun

b)

meddwl am rywbeth yn ofalus

13.

malu awyr

a)

siarad am bethau dwl

b)

breuddwydio

c)

dweud y gwir

d)

siarad am bethau pwysig

14.

cannwyll fy llygad

a)

golau llachar

b)

gwres

c)

torch

d)

person pwysig i person/ rhywun maent yn hoffi

15.

yn bendramwnwgl

a)

yn sydyn

b)

syrthio dros dy ben/ pen yn gyntaf

c)

wedi drysu