wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Cwis Ffwl Ebrill

Total questions: 20

Worksheet time: 10mins

Name
Class
Date
1.

Roedd Kimo Nakajimi, rhedwr ym Marathon Llundain 1983 wedi camddeall rheolau'r ras oherwydd doedd e ddim yn siarad Saesneg. Roedd e'n meddwl bod angen rhedeg am 26 diwrnod yn lle 26 milltir. Ffeindiodd pobl ef yn dal i redeg yng nghefn gwlad Lloegr ymhell ar ôl diwedd y ras.

a)

Gwir

b)

Gau

2.

Roedd Burger King wedi creu "Whopper llaw chwith" yn 1998 er mwyn helpu pobl llaw chwith yn America. Roedd gan y byrgyr yr un cynhwysion ond roedden nhw wedi cael eu troi 180 gradd.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

3.

Mae eliffantod yn gallu dynwared (mimic) synau gwahanol, gan gynnwys adar a traffig gerllaw.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

4.

Roedd ffermwyr yn y Swisdir wedi cael cnwd da o spaghetti o'u coed spaghetti yn 1957

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

5.

Fe wnaeth grŵp o bobl chwilio am berson coll am oriau. Roedd y menyw 'coll' yn rhan o'r grŵp chwilio yr holl amser, ond ddim wedi adnabod y disgrifiad o'i hun.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

6.

Fe wnaeth Kim Jong-un, arweinydd Gogledd Corea gwahardd (to ban) One Direction o fynd i mewn i'r wlad achos roedd angen iddyn nhw gael yr un steil gwallt â fe ( gwallt byr ar yr ochrau)

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

7.

Mae Cloc "Big Ben" yn Llundain yn mynd yn ddigidol.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

8.

Roedd sŵ yn Tseina wedi twyllo pobl drwy ddweud bod ci blewog yn eu sŵ yn un o'r llewod.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

9.

Mae Britain's Got Talent wedi creu drws codi 'trap door' er mwyn gwrthod cystadleuwyr yn lle gwasgu'r botwm 'X'.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

10.

Roedd modeli yn Sioe Ffasiwn Paris wedi gwisgo dillad allan o siocled.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

11.

Mae cwmni 'Parcio a Sorbio' neu 'Park-and- Zorb' wedi creu cynllun i leihau llygredd aer. Mae ysgolion a swyddfeydd o gwmpas y wlad yn ceisio osgoi traffig mewn dinasoedd mawr drwy parcio'r car ac yna sorbio i'r ysgol neu i'r gwaith yn lle! Mae 23 safle yn y Deyrnas Unedig.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

12.

Mae ffarmwr wedi honni (claimed) fod ei ieir e yn dodwy mwy o wyau pan maen nhw'n gwrando i ganeuon Ed Sheeran

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

13.

Mae pry cop sydd newydd wedi cael ei ddarganfod o'r newydd yn Awstralia wedi cael ei enwi'n 'Brian'. Mae'r pry cop yn gallu syrffio, nofio a dal pryfed mwy na 3 gwaith ei maint.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

14.

Mae cwmni wedi dechrau creu 'Sgidiau Selffi' neu hunlun.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

15.

Mae coler newydd yn gallu dweud meddyliau eich ci. Mae'n cynnwys sgodyn (chip) sy'n gallu cyfieithu teimladau a meddyliau eich ci.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

16.

Mae cwmni awyrennau wedi creu'r awyren cyntaf gyda llawr allan o wydr. Bydd pobl yn gallu gweld golygfeydd o'r ddaear 30,000 troedfedd (foot) i fyny!

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

17.

Mae robot wedi tynnu 'welffi' neu 'selfie' o'i hun o blaned Mawrth (Mars) a'i anfon at wyddonwyr yma.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

18.

Mae archeolegwyr (archeologists) wedi dweud roedd uncyrn 'unicorns' arfer bodoli ar ein planed. Maen nhw wedi ffeindio penglog (skull) sy'n dangos anifail tebyg i geffyl gydag un corn.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

19.

Fe wnaeth Google greu diod o'r enw 'Google Gulp'.

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill

20.

Fe wnaeth cylchgrawn 'Beano' gyhoeddi eu cylchgrawn am y tro cyntaf heb ddefnyddio geiriau. Dim ond emojis!

a)

Gwir

b)

Ffŵl Ebrill