wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

uned 1.3 Dwr

Total questions: 10

Worksheet time: 5mins

Name
Class
Date
1.

Mae’r diagram yn dangos y broses mewn gwaith dŵr.

Beth sy'n digwydd yng ngham 1 a 4? Dau ateb yn gywir.

a)

Ychwanegu fflworin cam 4 i leuhau pydredd mewn dannedd.

b)

Ychwanegu clorin cam 4 i lladd y bacteria.

c)

Mae’n cael ei hidlo trwy wely o dywod bras, sy’n dal y gronynnau solid mawr.

d)

Bydd y dŵr yn llifo o ben y tanc gwaddodi, i hidlydd o dywod mân. Mae hwn yn dal unrhyw ronynnau anhydawdd llai o faint sydd ar ôl,

2.

Fflworideiddio dŵr yw’r broses o ychwanegu cyfansoddion

a)

fflworid (e.e.sodiwm fflworid) at gyflenwad dŵr yfed.

b)

clorid (e.e.sodiwm clorid) at gyflenwad dŵr yfed.

3.

Mae fflworideiddio dŵr yn gallu achosi

a)

canser yr esgyrn

b)

canser y croen

4.

Mae cysylltiad rhwng ïonau

fflworid a lleihad yn nifer yr achosion o bydredd .......... sy'n arbed arian a lleihau’r defnydd o anaesthetig cyffredinol i'r NHS.

a)

dannedd

b)

esgyrn

5.

Mae pob cyflenwad dŵr yn y DU wedi’i glorineiddio ond dim ond rhai sydd wedi’u fflworideiddio. Nodwch pam mae’r ddwy broses yn cael eu gwneud, ac amlinellwch pam bod rhai pobl yn gwrthwynebu (opposed to) fflworideiddio dŵr yfed ond does neb yn gwrthwynebu clorineiddio. Dau ateb yn gywir.

a)

Clorineiddio yn lladd bacteria. Neb yn gwrthwynebu.

b)

Fflworideiddio yn lleihau pydredd dannedd ond crynodiad uchel yn gallu achosi canser yr esgyrn. Pobl yn gwrthwynebu.

c)

Clorineiddio ddim yn lladd bacteria.Yn gwrthwynebu.

6.

Gellir gwahanu dŵr oddi wrth yr halen sydd mewn dŵr y môr drwy ddefnyddio’r broses ............... uchoder mwyn cael dŵr pur sy'n berwi ar 100 C. 

a)

distyllu

b)

hidlo

c)

cromatograffaeth

7.

Hydoddydd yw .......

a)

Yr hylif mae'r solid yn cael ei hydoddi i mewn iddo e.e. dŵr

b)

Solid (neu sylwedd) sy'n cael ei hydoddi e.e. halen

8.

Cyfrifwch ganran gynyddol y siwgr sy’n hydoddi o

20 °C (40g) i 70 (60g) °C mewn 50g o ddŵr.

Defnyddiwch yr hafaliad isod i ddarganfod y canran cynnydd mewn hyddedd. Dangoswch eich gwaith cyfrifo.

Gwerth y gwahaniaeth X 100

Gwerth gwreiddiol

a)

50%

b)

75%

c)

200%

9.

Hydoddedd yw ...

a)

faint o'r hydoddyn (solid) fydd yn hydoddi yn yr hydoddydd.

b)

faint o'r hydoddydd (hylif) fydd yn hydoddi yn yr hydoddyn.

10.

Mae caledwch mewn dŵr yn cael ei achosi gan gyfansoddion calsiwm (ion Ca2+) a ......................... wedi hydoddi ynddo, pethau nad yw’r gwaith dŵr yn eu tynnu allan.

a)

magnesiwm (ion Mg2+)

b)

copr (ion Cu2+)

c)

sinc (ion Zn2+)