WorksheetsAneirin a'r Genhedlaeth Goll
Total questions: 13
Worksheet time: 7mins
Mesur y ddwy gerdd yw...
caeth
rhydd
penrydd
Pa themau sydd yn y ddwy gerdd?
rhyfel
crefydd
brawdgarwch / cyd-ddyn
pigo cydwybod
Pa gerdd sy'n defnyddio'r gynhanedd yn achlysurol?
Aneirin
Y Genhedlaeth Goll
Pa dechneg arddull?
"yn ffrwydro'n yfflon o'th gwmpas"
ansoddair
berf
cyffelybiaeth
cyflythrennu
Cywir neu anghywir? Mae'r ddau fardd yn siarad yn uniongyrchol gyda'r darllenydd.
cywir
anghywir
Beth yw effaith ail adrodd "llygaid" ym mhennill 1af 'Y Genhedlaeth Goll'?
eisiau ysgwyd yr ymchwilwyr o'u hoerni
eisiau denu sylw at lygaid y bobl
pwysleisio bod llawer o bobl yn edrych
bardd yn hoffi'r gair
Defnyddia Iwan Llwyd gyfeiriadaeth yn ei gerdd, "cig amrwd a fwydai frain". Beth yw cyfeiriadaeth?
cyfeirio at rywbeth diddorol
cyfeirio at waith llenor neu fardd arall
cyfeirio at ddelwedd benodol
cyfeirio at gyfeiriad arbennig
Pa dechneg?
"dyn yn lladd mewn lliw:
mewn du a gwyn,"
lliwiau
ansoddeiriau
gwrthgyferbyniad / cyferbyniad
delwedd
Beth mae'r bardd yn son amdano ym mhennill 2 'Y Genhedlaeth Goll'?
pobl yn mynd ar goll
llygaid y milwyr
papurau newydd o adeg y Rhyfel Byd Cyntaf
Beth yw effaith rhestru rhyfeloedd yn 'Aneirin'?
pwysleisio'r rhyfeloedd mae Aneirin wedi bod ynddyn nhw
denu sylw at y rhyfeloedd i gyd
pwysleisio bod pobl ddim yn dysgu a bod rhyfel ym mhob oes
Beth yw effaith "ac eto" ar ddechrau pennill 3 'y Genhedlaeth Goll'?
newid cyfeiriad y gerdd
denu sylw at y papurau
Beth yw neges Alan Llwyd yn ei gerdd?
bod bywyd yn galed
dydi bobl byth yn newid
difaterwch bobl o feddwl am yr holl fechgyn a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Beth yw neges Iwan Llwyd yn 'Aneirin'?
bod bobl ddim yn dysgu ac yn newid - mae Rhyfel ym mhob oes
bod Aneirin wedi byw yn hen
bod bywyd yn greulon
