Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Adolygu 'Ofn'

Total questions: 14

Worksheet time: 5mins

Name
Class
Date
1.

Gallwn gysylltu'r dyfyniad gan Gordon Brown â pha linell yn y gerdd?

a)

'Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd'

b)

'a phob un cornel stryd yn gysgod du'

c)

'pan fo pob ffrind yn sinistr a blin'

d)

'a'r rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben'

2.

Trosiad am beth ydy 'holl rym tywyllwch'?

a)

Teithio

b)

Terfysgaeth

c)

Tawelwch

d)

Tywysogaeth

3.

Sut ddarlun o'n strydoedd a gawn yn y gerdd? Dewiswch ddau.

a)

Hapus

b)

Cynnes

c)

Brawychus

d)

Peryglus

4.

Dewiswch y llinell sy'n cyferbynnu â'r canlynol: 'a phob un cornel stryd yn gysgod du'

a)

'a'r rhai mewn grym yn gweld y byd ar ben'

b)

'diffoddwch y teledu am y tro'

c)

'agorwch lenni'r lolfa led y pen'

d)

'tu allan ar y stryd fel cyllell wen'

5.

At bwy ydy'r 'dim ond dychryn ar y sgrin' yn cyfeirio?

a)

Busnesau

b)

Yr heddlu

c)

Y cyfryngau

d)

Y gwasanaeth iechyd

6.

Pa rai o'r canlynol sy'n ansoddeiriau? Dewiswch ddau.

a)

cysgodion

b)

sinistr

c)

blin

d)

anwybod

7.

Pa linell sy'n pwysleisio effaith y derfysgaeth ar berthnasoedd?

a)

'pan fod cysgodion ar y ffyrdd i gyd'

b)

'a dim ond nos yr ochr draw i'r llen'

c)

'pan fo pob ffrind yn sinistr a blin'

d)

'yn cadw pawb rhag bod yn rhydd'

8.

Enghreifftiau o beth yw 'diffoddwch', 'agorwch', 'cofleidiwch'?

a)

Trosiadau

b)

Cyffelybiaethau

c)

Berfau gorchmynnol

d)

Ansoddeiriau

9.

Beth mae'r bardd yn awgrymu y dylwn wneud? Ticiwch bob ateb perthnasol.

a)

Cofleidio'r anwybod

b)

Mynd i redeg

c)

Diffodd y teledu

d)

Agor y drws

10.

Cwblhewch y dyfyniad: 'Cofleidiwch yr anwybod, ewch ag o tu allan ar y stryd fel ...

a)

fforc fawr

b)

cyllell ddu

c)

cyllell wen

d)

sosban fach

11.

Beth yw 'hualau'?

a)

Breichledi (bracelets)

b)

Cadwyni (chains)

c)

Rhaffau (ropes)

d)

Allweddi (keys)

12.

Pa air sy'n cael ei ailadrodd yn y gerdd?

a)

Rhai

b)

Pan

c)

Bygwth

d)

Lolfa

13.

Ar ba fesur mae'r gerdd?

a)

Penrhydd

b)

Mydr ac odl

c)

Englyn

d)

Soned

14.

Beth yw nodweddion y mesur? Ticiwch bob ateb perthnasol.

a)

14 llinell

b)

Wythawd / chwechawd

c)

Volta - trobwynt

d)

Dim patrwm odli