Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Geirfa Cristnogaeth 2

Total questions: 13

Worksheet time: 7mins

Name
Class
Date
1.

Testun Cristnogol sanctaidd, cred Cristnogion ei fod wedi'i ddatguddio a'i ysbrydoli gan Dduw. Mae wedi'i ffurfio o'r Hen destament ar Destament Newydd. Beth yw hwn?

a)

Y Beibl

b)

Datguddiad

c)

Barn

d)

Bedydd

2.

Duw'n ei wneud ei hun yn hysbys i ddynolryw; er enghraifft trwy'r Beibl. Beth yw hwn?

a)

Y Beibl

b)

Datguddiad

c)

Barn

d)

Bedydd

3.

Y gred y bydd Duw'n barnu a yw bodau dynol yn haeddu mynd i Deyrnas Nefoedd ai peidio. Duw yw'r barnwr terfynol. Beth yw hwn?

a)

Y Beibl

b)

Datguddiad

c)

Barn

d)

Bedydd

4.

Defod dderbyn yw'r sacrament hwn, a mae pobl yn dod yr elodau o'r eglwys trwyddo. Mae'r gair '____', yn golygu trochi mewn dwr. Mae dwr yn cael ei ddefnyddio yn symbol o bechod yn cael ei olchi. Beth yw hwn?

a)

Y Beibl

b)

Datguddiad

c)

Barn

d)

Bedydd

5.

Broses o feddwl yn rhesymegol; y gallu i feddwl mewn modd rhesymegol. Ffurfio barn a safbwyntiau trwy ystyriaeth rhesymegol sy'nb seiliedig ar dystiolaeth. beth yw hwn?

a)

Rheswm

b)

Bedydd Esgob (comffyrmasiwn)

c)

Ewcharist

d)

Pererindod

6.

Defod trwy ba un y mae unigloyn sydd wedi cael ei fedyddio yn cadarnhau ei gred Gristnogol ac yn cael ei gydnabod yn aelod llawn o'r Eglwys. Beth yw hwn?

a)

Rheswm

b)

Bedydd Esgob (comffyrmasiwn)

c)

Ewcharist

d)

Pererindod

7.

Y gwasanaeth sy'n dathlu marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Mae bara a gwin yn cynrychioli corff a gwaed Iesu. Beth yw hwn?

a)

Rheswm

b)

Bedydd Esgob (comffyrmasiwn)

c)

Ewcharist

d)

Pererindod

8.

Taith a wneir i fan sanctaidd, a hynny fel gweithred o addoliad a defosiwn, e.e. efally y bydd Cristnogion yn ymweld a Jerwsalem i gerdded yn ol troed Iesu. Beth yw hwn?

a)

Rheswm

b)

Bedydd Esgob (comffyrmasiwn)

c)

Ewcharist

d)

Pererindod

9.

Y agllu i wneud dewisiadau (yn enwedig dewisiadau moesol) yn wirfoddol ac yn annibynnol. Y gred nad oes dim wedi'i ragderfynu. Beth yw hwn?

a)

Ewyllys rydd

b)

Nefoedd

c)

Uffern

d)

Addunedau

e)

Symbolau priodas.

10.

Man yn y byd a ddaw ar gyfer y rhai hynny sydd yn derbyn gras a maddeuant Duw yn y bywyd hwn, a lle byddant yn mwynhau bodolaeth dragwyddol ym mhresenoldeb Duw. Beth yw hwn?

a)

Ewyllys rydd

b)

Nefoedd

c)

Uffern

d)

Addunedau

e)

Symbolau priodas.

11.

Man cosb yn y byd a ddaw ar gyfer y rhai hynny sydd, o'r hewyllys rydd eu hunain, yn gwrthod gras a maddeuant Duw, ac yn dewis byw, yn dragwyddol, y tu allan i bresenoldeb Duw. Beth yw hwn?

a)

Ewyllys rydd

b)

Nefoedd

c)

Uffern

d)

Addunedau

e)

Symbolau priodas.

12.

Addewidion a wneir rhwng pobl, neu addewidion unigolyn i Dduw. Mae ____ priodas yn addewidion y mae'r briodferch a'r briodfab yn eu gwneud, gan eu hymrwymo eu hunain, y naill i'r llall. Beth yw hwn?

a)

Ewyllys rydd

b)

Nefoedd

c)

Uffern

d)

Addunedau

e)

Symbolau priodas.

13.

Nodweddion y seremoni briodas sy'n dynodi diben ac ystyr priodas. Er enghraifft, mae'r fodrwy briodas, sy'n gylch parhaus o fetel gwerthfawr, yn symbol o gariad diderfyn, gwerthfawr sydd rhwng y priodfab a'r briodferch. Beth yw hwn?

a)

Ewyllys rydd

b)

Nefoedd

c)

Uffern

d)

Addunedau

e)

Symbolau priodas.