Font size
WorksheetsCymedr - geiriol - lefel 2
Total questions: 7
Worksheet time: 35mins
Mewn 3 gêm o fowlio, sgoriodd Lisa 93, 115 a 107 pwynt.
Beth oedd ei sgôr cymedrig?
105 pwynt
98 pwynt
101 pwynt
103 pwynt
Dyma faint o bwyntiau sgoriodd dynion rygbi Cymru yn y Chwe Gwlad yn 2022:
7 yn erbyn Iwerddon
20 yn erbyn yr Alban
19 yn erbyn Lloegr
9 yn erbyn Ffrainc
21 yn erbyn yr Eidal
Beth oedd y nifer cymedrig o bwyntiau sgoriwyd gan ddynion Cymru yn y gystadleuaeth?
15.2 pwynt
16.8 pwynt
14 pwynt
14.4 pwynt
16.4 pwynt
Beth yw cymedr y rhifau canlynol?
8, 19, 5, 3, 17
Defnyddiwch rhannu byr
(a)
Yn y Gemau Olympaidd, enillodd Prydain Fawr:
64 medal yn Tokyo yn 2021; 65 medal yn Rio de Janeiro yn 2016; 65 medal yn Llundain yn 2012; 51 medal yn Beijing yn 2008; 30 medal yn Athens yn 2004; 28 medal yn Sydney yn 2000.
I'r un agosaf, beth yw'r nifer cymedrig o fedelau enillodd Prydain ers 2000?
59 medal
61 medal
57 medal
55 medal
58 medal
Mae'r pictogram yn dangos faint o bitsa mae Alun, Bedwyr, Carwyn a Deio wedi bwyta dros yr Haf.
Beth yw'r cymedr?
11.5 pitsa
12 pitsa
9 pitsa
10 pitsa
9.5 pitsa
Dyma'r amser cymrodd Dewi i frwsio'i ddannedd pob nos dros wythnos:
2 funud 32 eiliad; 3 munud 10 eiliad;
2 funud 47 eiliad; 3 munud 2 eiliad;
2 funud 46 eiliad; 2 funud 18 eiliad;
2 funud 19 eiliad.
Beth yw'r amser cymedrig mae e wedi cymryd Dewi i frwsio'i dannedd?
Cymorth: trowch bob amser i eiliadau yn gyntaf
3 munud 2 eiliad
2 funud 42 eiliad
2 funud 54 eiliad
2 funud 47 eiliad
2 funud 55 eiliad
Mae Morgan yn pwyso 12 toesen (doughnut) mewn bocs. Roedd 5 ohonynt yn pwyso 48.5 g, 4 yn pwyso 51.2 g, a'r gweddill yn pwyso 48.8 g.
Beth yw pwysau cymedrig y toesenni? Peidiwch dalgrynnu eich ateb.
(a)
