Font size
WorksheetsBlack and British gan David Olusoga
Total questions: 12
Worksheet time: 7mins
Pa fath o ffynhonnell ydy 'Black and British' gan David Olusoga?
Ffynhonnell Cynradd
Ffynhonnell Eilaidd
Beth yw ystyr y gair dibynadwy?
Gallu ymddired (trust) mewn ffynhonnell.
Methu ymddired (trust) mewn ffynhonnell.
Pam mae David Olusoga yn ddibynadwy?
Mae David Olusoga yn ddibynadwy oherwydd mae ei lyfr wedi defnyddio ffynonellau cynradd i ddod i gasgliad am filwyr du yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae David Olusoga yn ddibynadwy oherwydd mae'n hanesydd sydd yn golygu mae wedi astudio'r hanes ac yn arbenigwr.
Mae'n ddibynadwy oherwydd dydy e ddim yn defnyddio ffynonellau i ddod i gasgliad.
Mae David Olusoga yn ddibynadwy oherwydd mae'n gosod ei barn yn unig heb dystiolaeth.
Pwy oedd Lance Corpral Alhaji Grunshi a pham mae'n enwog?
Lance Corporal Alhaji Grunshi oedd y milwr cyntaf i saethu bwled gyntaf yn y Rhyfel pan oedd yn ymladd yn yr Arfordir Aur (Gold Coast).
Fe oedd y person cyntaf bu farw yn y rhyfel.
Enillodd ef y fedal gyntaf yn y rhyfel.
Pa swydd oedd rhaid i'r 'The British West Indies Regiment' gwneud pan gyrhaeddon nhw i Ffrainc?
Ymladd yn erbyn yr Almaenwyr.
Coginio bwyd i filwyr gwyn.
Adeiladu ffosydd (trenches), hewlydd, a symud nwyddau i'r rhyfel.
Yn ol ymchwil David Olusoga pam oedd milwyr y 'West Indies' eisiau ymladd am Brydain?
Cael eu gorfodi gan Lywodraeth Prydain.
Teimlad o ffyddlondeb (loyalty) i Brydain.
Doedd dim llawer o swyddi yn y 'West Indies', roedd y Byddin yn cynnig cyflog (arian) cyson pob mis.
Oedd Llywodraeth a Byddin Prydain yn hapus derbyn y dynion yma fel milwyr?
Nac oedden
Oedden
Pam oedd Llywodraeth a Byddin Prydain yn erbyn defnyddio milwyr du yn erbyn y gelyn (enemy).
Yn ôl Daivd Olusoga roedd y Llywodraeth yr amser yn defnyddio meddylfryd hiliol (racist) nad oedd yn gywir bod milwyr du yn lladd milwyr gwyn.
Yn ôl David Olusoga roedd y Llywodraeth yn credu roedd y milwyr yma'n llai dawnus (talented).
Beth oedd yn arbennig am Walter Tull?
Roedd yn enwog cyn y rhyfel a wnaeth ef oroesi’r rhyfel.
Roedd yn beldroediwr enwog cyn y rhyfel a ddaeth y Swyddog (Officer) du, er roedd rheolau'r fyddin yn dweud dim ond pobl wen oedd cael bod.
Beth oedd teimlad milwyr du Prydain ar ol i'r Rhyfel gorffen?
Roedd y milwyr yn derbyn holl barch gan y Llywodraeth a theimlad o ddiolchgarwch.
Doedd dim hawl gan y milwyr yma gorymdeithio (march) i ddathlu buddugoliaeth Prydain.
Beth newidiodd oherwydd y driniaeth annheg gan Lywodraeth Prydain yn erbyn milwyr du Prydain.
Roedd y teimlad o ffyddlondeb i Brydain wedi mynd. Roedd teimladau o annibyniaeth yn dechrau datblygu yn wledydd o dan reolaeth Prydain.
Roedd y milwr yn mynd adref a dechrau teuluoedd ac anghofio am y rhyfel.
Penderfynodd 20,000 milwyr du aros ym Mhrydain ar ddiwedd y rhyfel. Roedd yr economi mewn ffordd wael gyda llai o swyddi, tai ac arian i bobl. Beth oedd effaith hyn ar bobl du Prydain?
Roedd pawb yn byw yn hapus a chyd gweithio.
Derbyniasant nhw'r bai am lai o swyddi, tai ac arian.
Adawodd rhan fwyaf ohonynt nôl i'w wledydd gwreiddiol.
