Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Gwallau: Y Nadolig

Total questions: 1

Worksheet time: 9mins

Name
Class
Date
1-10.

Dyma baragraff yn llawn gwallau gan ddisgybl Blwyddyn 7. Dewch o hyd i'r camgymeriadau.

Anwyl Mr pritchard,

Rwy'n gobeithio y daw’r llythur hwn atoch a chithau mewn hwyliau llawen! Wrth i tymor y gwyliau nesáu, hoffwn ofyn yn garedig ar ran holl ddisgyblion blwyddyn saith am ddwrnod i ffwrdd ar ddiwrnod olaf y tymor. Pam, rydych chi'n gofyn?

Wel, mae'n genhadaeth gyfrinachol – sef sicrhau bod trwunau'r ceirw yn disgleirio ar gyfer eu noson mawr! Rydym yn gaddo dychwelyd gyda hanesion am anturiaethau’r ceirw ac efallai ychydig o fisgedi melus ar gyfer yr ystafell staff.

Plis rhowch i ni ddiwrnod rhydd, ac rydym yn gaddo bihafio drwy weddill y flwyddun.

Cofion llawen,

1.

Beth yw'r gair Cymraeg am 'Dear'

a)

Anwyl

b)

Annwyl

c)

Dear

d)

Anwul

2.

Pam fod 'Mr pritchard' yn anghywir?

a)

Mae'n gywir

b)

Mae angen rhoi enw cyntaf yn lle'r cyfenw

c)

Mae angen rhoi priflythyren i'r cyfenw Pritchard

d)

Does dim angen rhoi priflythyren i Mr

3.

Beth yw ystyr cenhadaeth gyfrinachol?

a)

Math o gân mae Cristion yn ei ganu mewn capel arbennig unwaith y flwyddyn.

b)

Aseiniad pwysig a roddir i berson neu grŵp o bobl heb ddatgelu i eraill

c)

Tasg o dyfu planhigion mewn tŷ gwydr

d)

Pan rydych yn mynd o amgylch tai i ofyn am arian at achos cudd.

4.

Beth yw'r gair Cymraeg am 'letter'

(a)  

5.

Mae'r frawddeg isod yn anghywir

'Wrth i tymor y gwyliau nesáu,'

Dewisiwch y frawddeg isod sydd yn gywir.

a)

Wrth i dymor y wyliau nesau

b)

Wrth i tymor y gwyliau nesau

c)

Wrth i tymor y gwyliau nesáu

d)

Wrth i dymor y gwyliau nesáu

6.

Pa un yw'r sillafiad cywir?

'Dwrnod' neu 'Diwrnod'

(a)  

7.

Beth yw ystyr 'bihafio'?

a)

I gadw at y rheolau

b)

I dynnu'n groes i reolau

c)

I ufuddhau i'r rheolau

d)

I sgrechian yn wyllt

8.

Mae'r arddodiad 'o' wedi achosi i bisgedi dreiglo'n beth?

'o fisgedi'

(a)  

9.

Beth sydd yn anghywir yn y frawddeg ganlynol?

'sef sicrhau bod trwunau'r ceirw yn disgleirio ar gyfer eu noson mawr! '

a)

Mae angen priflythyren ar enw fel Ceirw

b)

Angen newid 'u' i 'y' yn 'trwynau'

c)

Y sillafiad cywir o disgleirio yw 'disgleurio'

d)

Mae ansoddair yn treiglo'n feddal ar ôl enw

noson fawr

10.

Beth yw ystyr 'weddill y flwyddyn ysgol'

a)

yr amser rhwng blwyddyn saith a blwyddyn tair ar ddeg

b)

yr amser rhwng heddiw â'r Nadolig

c)

yr amser sydd ganddyn nhw ar ôl ym mlwyddyn saith

d)

yr amser rhwng heddiw a fory