Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Uned 1 - Data - Delweddau

Total questions: 15

Worksheet time: 8mins

Name
Class
Date
1.

Beth yw graffeg rastr?

a)

Delwedd sy’n cael ei storio fel set o gyfarwyddiadau

b)

Delwedd sy’n cael ei chreu gan fectorau

c)

Strwythur data matrics sy’n cynrychioli grid o bicseli

d)

Data testunol

2.

Pa un o’r canlynol yw delwedd rastr?

a)

GIF

b)

BMP

c)

SVG

d)

EPS

3.

Beth yw ystyr PPI mewn cydraniad delwedd?

a)

Pwyntiau fesul modfedd (points per inch)

b)

Picseli fesul modfedd (pixels per inch)

c)

Prosesu fectorau

d)

Patrymau lliw

4.

Beth sy’n digwydd os byddwch yn cynyddu nifer y picseli fesul modfedd mewn delwedd?

a)

Mae ansawdd y ddelwedd yn cynyddu

b)

Mae’r ffeil yn llai

c)

Mae lliwiau’n newid

d)

Mae’r ddelwedd yn llai manwl

5.

Beth yw dyfnder lliw?

a)

Nifer y lliwiau sy’n bosib mewn delwedd

b)

Maint y ddelwedd

c)

Nifer y picseli mewn ffeil

d)

Y ffordd mae lliwiau’n cael eu storio

6.

Pa un o’r canlynol yw mantais graffeg fector?

a)

Gellir ei graddio heb golli ansawdd

b)

Defnyddio mwy o storfa

c)

Defnyddio mwy o bicseli

d)

Anodd ei olygu

7.

Pa fath o ffeil sy’n fwy addas ar gyfer logos?

a)

PNG

b)

JPEG

c)

BMP

d)

SVG

8.

Pa un o’r canlynol yw enghraifft o ddelwedd symudol?

a)

JPEG

b)

PNG

c)

GIF

d)

BMP

9.

Beth yw fframiau mewn delweddau symudol?

a)

Cyfres o luniau unigol

b)

Picseli mewn delwedd

c)

Lliwiau mewn ffeil

d)

Pwyntiau gosod mewn fector

10.

Beth sy’n digwydd os yw delwedd ddidfap yn ddu a gwyn?

a)

Defnyddio 256 lliw

b)

Storio 1 ar gyfer du ac 0 ar gyfer gwyn

c)

Storio 16 lliw

d)

Storio 8 lliw

11.

Mae delweddau fector yn cael eu storio fel picseli.

a)

Gwir

b)

Anwir

12.

Po uchaf yw’r cydraniad, gorau fydd ansawdd y ddelwedd.

a)

Gwir

b)

Anwir

13.

Gall delweddau rastr gael eu graddio i unrhyw faint heb golli ansawdd.

a)

Gwir

b)

Anwir

14.

Mae GIF yn gallu storio delweddau symudol.

a)

Gwir

b)

Anwir

15.

Mae PNG yn cefnogi tryloywder (transparency).

a)

Gwir

b)

Anwir