wayground logo

Free Printable Worksheets

NEW

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Uned 1 - Dibynadwyedd Ffynonellau Ar-lein

Total questions: 15

Worksheet time: 8mins

Name
Class
Date
1.

Pam nad yw pob gwybodaeth ar-lein yn fanwl gywir?

a)

Oherwydd bod gan bob gwefan safonau uchel

b)

Oherwydd bod unrhyw un yn gallu cyhoeddi gwybodaeth ar-lein

c)

Oherwydd bod yr holl wybodaeth ar-lein yn cael ei olygu gan arbenigwyr

d)

Oherwydd nad oes fersiynau anghywir o wybodaeth

2.

Pa enghraifft yw ffynhonnell wybodaeth agored sy’n gallu cael ei golygu gan unrhyw un?

a)

Gwefan newyddion swyddogol

b)

Wicipedia

c)

Dogfen academaidd

d)

Llyfr testun

3.

Beth yw gwybodaeth ragfarnllyd (biased)?

a)

Gwybodaeth sy'n cyflwyno ffeithiau'n wrthrychol

b)

Gwybodaeth sy’n cael ei hysgrifennu o safbwynt unigolyn neu sefydliad sydd â barn benodol

c)

Gwybodaeth sy’n cael ei gwirio gan ffynonellau lluosog

d)

Gwybodaeth sy'n cynnwys dim ond data ystadegol

4.

Pam gall gwybodaeth sydd wedi dyddio fod yn broblem?

a)

Oherwydd ei bod bob amser yn ffug

b)

Oherwydd gallai’r wybodaeth fod wedi newid dros amser

c)

Oherwydd nad yw hen wybodaeth yn cael ei defnyddio

d)

Oherwydd nad oes modd dod o hyd i hen wybodaeth

5.

Pa un o’r dulliau canlynol sy’n helpu i wirio gwybodaeth ar-lein?

a)

Defnyddio un ffynhonnell yn unig

b)

Edrych ar sawl ffynhonnell wahanol

c)

Dilyn barn boblogaidd yn unig

d)

Edrych ar wefannau cyfryngau cymdeithasol yn unig

6.

Pa enghraifft yw gwefan ddibynadwy?

a)

Blog personol

b)

Gwefan newyddion swyddogol fel BBC

c)

Fforwm barn ar-lein

d)

Wefan heb unrhyw wybodaeth am ei hawdur

7.

Pam mae’n bwysig gwirio’r ffynhonnell pan fyddwch yn darllen gwybodaeth ar-lein?

a)

I sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy

b)

Oherwydd nad oes angen gwirio ffynonellau

c)

I osgoi gorfod chwilio gwybodaeth arall

d)

I sicrhau bod yr holl wybodaeth yr un fath

8.

Pa ffactor allai olygu nad yw gwefan yn ddibynadwy?

a)

Wedi’i diweddaru’n rheolaidd

b)

Nid yw’n cynnwys unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei syniadau

c)

Defnyddio tystiolaeth o ffynonellau academaidd

d)

Yn cael ei rhedeg gan gorff swyddogol

9.

Pa gam sy’n synhwyrol wrth werthuso ffynhonnell wybodaeth?

a)

Edrych ar y dyddiad diweddaru diwethaf

b)

Credu’r wybodaeth yn syth

c)

Peidio ag edrych ar unrhyw ffynonellau eraill

d)

Defnyddio gwybodaeth hen

10.

Pam mae gwybodaeth wedi dyddio yn gallu bod yn annibynadwy?

a)

Oherwydd nad yw’n berthnasol nac yn fanwl gywir mwyach

b)

Oherwydd bod hen wybodaeth bob amser yn gywir

c)

Oherwydd nad yw'n gallu cael ei olygu

d)

Oherwydd bod pawb yn defnyddio'r un wybodaeth

11.

Mae unrhyw wybodaeth ar-lein bob amser yn gywir.

a)

Gwir

b)

Anwir

12.

Gall gwybodaeth ragfarnllyd roi golwg anghywir o bwnc penodol.

a)

Gwir

b)

Anwir

13.

Mae’n ddefnyddiol gwirio sawl ffynhonnell i gadarnhau gwybodaeth ar-lein.

a)

Gwir

b)

Anwir

14.

Dim ond ar wefannau swyddogol mae gwybodaeth fanwl gywir i’w chael.

a)

Gwir

b)

Anwir

15.

Mae defnyddio ffynonellau dibynadwy yn helpu i osgoi gwybodaeth anghywir.

a)

Gwir

b)

Anwir