NEW
Font size
WorksheetsCwis Y Daith
Total questions: 20
Worksheet time: 10mins
Beth ydy prif thema'r gerdd?
Cariad at Bontypridd
Casáu Pontypridd
Newid agwedd tuag at Bontypridd
Sut mae Angharad yn teimlo am Bontypridd ar ddechrau'r gerdd?
Mae hi’n caru Pontypridd
Mae hi’n casáu Pontypridd
Mae hi’n goddef Pontypridd
I ble mae Angharad yn breuddwydio am fynd?
Llundain
America neu Awstralia neu Sbaen
Pontypridd
Sut mae’r tywydd ym Mhontypridd?
Bwrw glaw
Heulog
Poeth
Beth ydy agwedd Angharad tuag at yr iaith Gymraeg ar ddechrau'r gerdd?
Mae hi’n meddwl bod Cymraeg yn iaith hen bobl
Mae hi eisiau dysgu Cymraeg
Mae hi’n dwli ar siarad Cymraeg
Pa ddigwyddiad sy'n dod i Bontypridd?
Gêm rygbi ryngwladol
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Carnifal
Pwy ydy Gemma?
Chwaer Angharad
Ffrind Angharad sy'n siarad Cymraeg
Mam Angharad
Beth sy ddim yn disgrifio Gemma?
Ffrind da
Ynys o Gymreictod
Ferch â’r llygaid llawn sêr
Ble mae Gemma eisiau mynd?
I'r dref
I gaffi
I Faes B
Pwy ydy Dom a Lloyd?
Cantorion gwlad
Rapwyr Cymraeg
Ffrindiau Angharad
Pwy ydy Sophie?
Merch mae Angharad yn cyfarfod ym Maes B
Chwaer Gemma
Cantores enwog
Beth ydy acen Sophie?
Acen Pontypridd
Acen ryfedd (ddim o Bontypridd)
Acen Saesneg
Sut mae Angharad yn teimlo wrth siarad Cymraeg gyda Sophie?
Hyderus
Nerfus
Trist
Beth sy'n digwydd rhwng Angharad a Sophie?
Maen nhw'n cusanu
Maen nhw'n cael sgwrs ddiflas
Maen nhw'n mynd i ddawnsio
Sut mae Angharad yn gweld Pontypridd y bore wedyn?
Mewn ffordd negyddol
Yr un peth
Mewn ffordd wahanol a mwy positif
Pa linell o gerdd arall mae Angharad yn ei chofio?
Fy ngwlad
Ni allaf ddianc rhag hon
Hen wlad fy nhadau
Beth mae Angharad yn gwneud ar TikTok ar ddiwedd y gerdd?
Postio fideo
Gwylio fideo o rapwyr Cymraeg
Anfon neges at Sophie
Ym mha iaith mae Angharad yn snapchatio Gemma ar ddiwedd y gerdd?
Cymraeg
Saesneg
Sbaeneg
Pa orsaf radio mae Angharad yn gwrando arni ar ddiwedd y gerdd?
Radio 1
Capital FM
Radio Cymru
Sut mae agwedd Angharad tuag at Bontypridd wedi newid erbyn diwedd y gerdd?
Mae hi’n casáu Pontypridd
Mae hi’n meddwl bod Pontypridd yn "lysh"
Mae hi'n penderfynu symud i ffwrdd
