Search Header Logo

1.1.1 Sectorau gwahanol y diwydiant twristiaeth a’u swyddogaetha

Geography

11th Grade

Used 3+ times

1.1.1 Sectorau gwahanol y diwydiant twristiaeth a’u swyddogaetha
AI

AI Actions

Add similar questions

Adjust reading levels

Convert to real-world scenario

Translate activity

More...

    Content View

    Student View

30 questions

Show all answers

1.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Sawl sector sydd i'r diwydiant Twristiaeth byd-eang?

4

6

7

9

2.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Pa sector?

Adenydd ac olwynion twristiaeth yw’r rhain, gan gysylltu teithwyr â chyrchfannau yn yr awyr, ar y rheilffordd, y ffyrdd a’r môr. Mae darparwyr trafnidiaeth yn cynnwys cwmnïau hedfan, cwmnïau mordeithiau, rheilffyrdd ac asiantaethau rhentu ceir sy’n cludo teithwyr i bedwar ban byd. Cwmnïau hedfan yw un o’r darparwyr trafnidiaeth mwyaf poblogaidd, yn enwedig i dwristiaid sy’n teithio’n rhyngwladol. Yn ôl y Gymdeithas Cludiant Awyr Rhyngwladol, aeth niferoedd y teithwyr a ddefnyddiodd cwmnïau hedfan byd-eang dros swm syfrdanol o 4.5 biliwn yn 2019, gan dynnu sylw at raddfa aruthrol y diwydiant.

Darparwyr trafnidiaeth

Darparwyr llety

Atyniadau

Digwyddiadau

3.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Pa sector?

Mae gwyliau, cynadleddau a digwyddiadau chwaraeon yn gynhaliaeth

fywiog i dwristiaeth. Maen nhw’n denu twristiaid sy’n chwilio am brofiadau cyffredin

ac atgofion o leoliadau domestig a rhyngwladol. Mae Carnifal Notting Hill yn Llundain,

sy’n dathlu diwylliant y Caribî, yn un o’r gwyliau stryd mwyaf yn y byd ac mae’n denu

amcangyfrif o 2 filiwn o fynychwyr y flwyddyn, sy’n dangos effaith ddofn digwyddiadau ar

dwristiaeth.

Darparwyr trafnidiaeth

Darparwyr llety

Atyniadau

Digwyddiadau

4.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Pa sector?

Lleoedd yw’r rhain y mae twristiaid yn ymweld â nhw am eu gwerth

diwylliannol, naturiol neu adloniant. Mae tirnodau naturiol ac wedi’u hadeiladu’n bwrpasol,

amgueddfeydd, parciau cenedlaethol a pharciau thema yn denu anturiaethwyr yn ogystal

â phobl sy’n mwynhau diwylliant. Mae gan bob atyniad nodweddion unigryw sy’n gwahodd twristiaid i’w harchwilio. Er enghraifft, derbyniodd Wal Fawr China, un o’r tirnodau wedi’i adeiladu’n bwrpasol mwyaf eiconig, dros 10 miliwn o ymwelwyr o bedwar ban byd yn 2019, gan arddangos apêl barhaus safleoedd hanesyddol i deithwyr rhyngwladol. (Ffynhonnell: CNN Travel). Mae’r DU yn gartref i nifer o barciau cenedlaethol sydd yn aml yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid domestig oherwydd eu golygfeydd, bywyd gwyllt a gweithgareddau awyr agored. Yr un mwyaf poblogaidd o’r rhain yw Ardal y Llynnoedd (Lake District) sy’n denu oddeutu 18.1 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. (Ffynhonnell:

cumbriatourism.org)

Darparwyr trafnidiaeth

Darparwyr llety

Atyniadau

Digwyddiadau

5.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Pa sector?

Mae’r rhain yn cynnig lle diogel i deithwyr aros ynddo. Mae gwestai, cyrchfannau gwyliau, safleoedd gwely a brecwast a thai gwyliau i gyd yn enghreifftiau o lety. Mae gan bob darparwr ei set ei hun o nodweddion a all ddarparu ar gyfer gwesteion gwahanol. Gall llety fod yn rhai wedi’u gwasanaethu neu heb eu gwasanaethu. Mae gwestai a chyrchfannau gwyliau mwy o faint yn fath o lety wedi’u gwasanaethu a all gynnig popeth y bydd teithwyr eu hangen o fewn eu muriau, sy’n cynnwys pyllau nofio, bariau, mynediad i draethau a chanolfannau ffitrwydd, yn ogystal â gwasanaeth cadw

tŷ. Mae sefydliadau llai o faint, fel gwely a brecwast a gwestai bach, yn llety wedi’u gwasanaethu hefyd ond maen nhw’n darparu ar gyfer y rheini sy’n tueddu i dreulio’r rhan fwyaf o’u diwrnodau y tu allan i’r gwesty. Maen nhw’n cynnig arhosiad cyfforddus a chartrefol yn aml, gan ddarparu brecwast a gwasanaeth cadw tŷ. Nid yw llety heb eu gwasanaethu yn darparu unrhyw wasanaethau ychwanegol, felly rhai hunanarlwyo ydyn nhw yn nodweddiadol. Mae fflatiau rhent byrdymor (fel y rhai sydd ar Airbnb), hosteli a gwersylloedd i gyd yn enghreifftiau o lety heb eu gwasanaethu. Creodd y diwydiant gwestai tua $600 biliwn yn fyd-eang yn 2019, gan adlewyrchu ei gyfraniad sylweddol at economïau lleol a’r broses o greu swyddi. (Ffynhonnell: Statista)

Darparwyr trafnidiaeth

Darparwyr llety

Atyniadau

Digwyddiadau

6.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Pa sector?

Mae’r rhain yn darparu gwasanaethau i dwristiaid trwy drefnu’r trefniadau teithio i gyd, fel trafnidiaeth, llety, fisâu a hyd yn oed gweithgareddau, tra ar wyliau. Mae’r gwasanaethau hyn yn aml yn cael eu cynnig mewn pecynnau ar ran cyflenwyr a hynny am brisiau arbennig. Maen nhw’n sicrhau bod pob cwsmer yn cael profiad sy’n gweddu i’w hanghenion penodol ac yn darparu’r cyfleustra o gael popeth wedi’i drefnu ymlaen llaw. Bydd un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl anghenion teithio. Creodd asiantaethau teithio ar-lein dros $34.8 biliwn o refeniw yn 2021, gan bwysleisio dylanwad cynyddol llwyfannau digidol. (Ffynhonnell: Statista)

Asiantaethau teithio

Trefnwyr teithiau

Darparwyr lletygarwch ac adloniant

Sefydliadau ategol

7.

MULTIPLE CHOICE QUESTION

20 sec • 1 pt

Pa sector?

Mae’r rhain yn gysylltiedig ag asiantaethau teithio; maen nhw’n creu’r gwasanaethau a’r profiadau sy’n cael eu gwerthu gan asiantaethau teithio. Mae trefnwyr teithiau yn adeiladu pecyn gwyliau drwy gyfuno trafnidiaeth, llety a gweithgareddau yn becyn y gallan nhw ei werthu’n uniongyrchol i’r cwsmer neu drwy asiantaeth deithio. Gallan nhw hefyd werthu gwasanaethau, fel llety, eu hunain. Cyfrifwyd bod gwerth y farchnad trefnwyr teithiau byd-eang tua $680 biliwn yn 2019, gan dynnu sylw at boblogrwydd profiadau teithio wedi’u pecynnu ymlaen llaw. (Ffynhonnell: Allied Market Research)

Asiantaethau teithio

Trefnwyr teithiau

Darparwyr lletygarwch ac adloniant

Sefydliadau ategol

Access all questions and much more by creating a free account

Create resources

Host any resource

Get auto-graded reports

Google

Continue with Google

Email

Continue with Email

Microsoft

Continue with Microsoft

or continue with

Facebook

Facebook

Apple

Apple

Others

Others

Already have an account?