Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Peryglon tectonig

Total questions: 18

Worksheet time: 9mins

Name
Class
Date
1.
Beth yw....... Cymysgedd o nwy, lludw a darnau bach o graig folcanig sydd i gyd yn boeth. Mae'n llifo'n gyflym (tua 200km yr awr) i lawr llethrau llosgfynydd yn ystod rhai echdoriadau ffrwydrol.
a)
llif lafa
b)
llif o ludw
c)
llif pyroclastig
d)
bomiau folcanig
2.
Beth yw...? 
Gair o Indonesia sy'n disgrifio llifogydd o ddŵr a lludw folcanig neu dirlithriad o laid i lawr llethr llosgfynydd.
a)
Lahar
b)
Llif pyroclastig
c)
llif lafa
d)
jökulhaup
3.
Beth yw....?
Darnau bach powdr o graig sy'n cael eu taflu o losgfynydd yn ystod echdoriad ffrwydrol.
a)
Llif pyroclastig
b)
Cwmwl o ludw
c)
llif lafa
d)
Lahar
4.
Beth yw....?
Gair o Wlad yr Iâ - llif sydyn sy'n cael achosi pan fydd llosgfynydd yn echdorri o dan yr iâ.
a)
Lahar
b)
Cwmwl o ludw
c)
llif pyroclastig
d)
jökulhaup
5.
Mesur o faint echdoriad folcanig sydd wedi'i seilio ar swm y lludw sy'n cael ei fwrw allan ac uchder y cwmwl lludw.
a)
Mynegrif Ffrwydroldeb Folcanig (VEI)
b)
Graddfa Richter
c)
Graddfa Maint Moment
6.
Mesur o gryfder daeargryn.
a)
Graddfa Maint moment
b)
Mynegrif Ffrwydroldeb Folcanig (VEI)
7.
Mesur maint daeargryn
a)
Mynegrif Ffrwydroldeb Folcanig (VEI)
b)
Graddfa Richter
8.
Y pwynt o dan y ddaear o le mae egni 'n lledaenu yn ystod daeargryn.
a)
Canolbwynt
b)
Uwchganolbwynt
c)
Isganolbwynt
9.
Y pwynt ar arwyneb y ddaear lle mae'r ddaear yn ysgwyd gyntaf yn sgil daeargryn. Mae union uwchben y canolbwynt.
a)
Canolbwynt
b)
Uwchganolbwynt
c)
Isganolbwynt
10.
Daeargrynfeydd (fel arfer yn llai) sy'n digwydd funudau neu ddiwrnodau ar ôl daeargryn mawr.
a)
cyn-gryiadau
b)
ôl-gryniadau
c)
cryniadau-ôl
d)
dirgryniadau
11.
Ddaear yn ysgwyd.
a)
dirgryniadau
b)
ôl-gryniadau
c)
symudiadau
d)
ysgwydiadau
12.
Wrth i'r ddaear gael ei hysgwyd bydd dŵr mewn creigiau a phridd yn codi i'r wyneb a'r tir yn ymddwyn yn debycach i ddŵr—pethau'n suddo.
a)
hylifiad
b)
dirgryniadau
c)
tirlithriad
d)
tsunami
13.
Cwymp sydyn llethr dan ei bwysau ei hun wrth i'r ddaear ysgwyd.
a)
hyliafiad
b)
dirgryniadau
c)
tirlithriad
d)
tsunami
14.
Cyfres o donnau mawr pwerus sy'n cael ei ffurfio wrth i ddŵr gael ei ddadleoli gan symudiad llawr y cefnfor/gwely'r llyn yn ystod daeargryn.
a)
hylifiad
b)
dirgryniadau
c)
tirlithriad
d)
tsunami
15.
Peryglon sydd yn digwydd yn uniongyrchiol oherwydd gweithgaredd tectonig e.e lafa, llwch neu ddirgryniadau daeargryn.
a)
perygl cynradd
b)
perygl eilaidd
16.
Effeithiau anuniongyrchol sy'n cael eu hachosi gan y peryglon gwreiddiol e.e. tsunmai neu lahar
a)
perygl cynradd
b)
perygl eilaidd
17.
Ffrwydriad llosgfynydd. Mae'r peryglon yn amrywio o lafa, i lwch neu lifau pyroclastig.
a)
echdoriad
b)
daeargryn
c)
ffrwydrad
18.
Craig wedi toddi yn rhedeg i ffwrdd o agorfa folcanig. Yn aml mae llifoedd lafa yn creu arweddion gwastad mawr o'r enw meysydd lafa.
a)
Llif lafa
b)
Llif pyroclastig
c)
Bomiau folcanig
d)
cwmwl o ludw