Wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Iechyd a ffitrwydd

Total questions: 25

Worksheet time: 16mins

Name
Class
Date
1.

Yr amrediad o symud o amgylch cymal. Diffiniad beth yw hyn?

a)

Cryfder

b)

Dygnwch cyhyrol

c)

Hyblygrwydd

d)

Cydbwysedd

2.

Gallu'r corff i newid cyfeiriad ar gyflymder. Diffiniad beth yw hwn?

a)

Ystwythder

b)

Cyd-drefnaint

c)

Cyflymder

d)

Amser ymateb

3.

Gallu'r cyhyrau i gyfangu tro ar ôl tro heb flino. Diffiniad beth yw hyn?

a)

Cryfder

b)

Dygnwch cyhyrol

c)

Pwer

d)

Dygnwch cardiofasgwlaidd

4.

Mae pwer yn gyfuniad o gryfder a pha gydran arall?

(a)  

5.

Mae iechyd yn gyflwr o les.... Ticiwch y rhai cywir.

a)

Meddyliol.

b)

Cymdeithasol.

c)

Ffitrwydd.

d)

Corfforol.

6.

Y gallu i reoli symud mwy nac un rhan o'r corff ar unwaith. Diffiniad pa gydran yw hwn?

a)

Cydbwysedd

b)

Cyd-drefniant

c)

Amser ymateb

d)

Cyflymder

7.

Pa un o'r rhain sydd ddim yn un o'r egwyddorion ymarfer?

a)

Gorlwytho

b)

Penodolrwydd

c)

Realistig

d)

Amrywiant

8.

Beth yw ystyr y term penodolrwydd (specificity) yn yr egwyddorion ymarfer?

a)

Bod yr ymarfer yn mynd yn anoddach.

b)

Bod angen amrywio'r ymarfer.

c)

Bod angen i'r ymarfer bod yn addas ar gyfer y weithgaredd.

d)

Bod angen i'r ymarfer barhau am gyfnod hirach.

9.

Beth yw ystyr y term cildroadedd (reversibility) yn yr egwyddorion ymarfer?

a)

Bod angen amrywio'r ymarfer er mwyn osgoi diflastod.

b)

Bod dwysedd yr ymarfer yn cynyddu.

c)

Bod angen amrywio'r ymarfer.

d)

Bod ffitrwydd yn cael ei golli os ydych yn stopio ymarfer.

10.

Gallwn orlwytho'r ymarfer trwy addasu'r. Ticiwch y rhai cywir

a)

Dwysedd

b)

Amlder

c)

Tywydd

d)

Hyd

11.

Beth yw ystyr y term cydbwysedd egni hafal?

a)

Pan mae'r caloriau i mewn yn llai na'r caloriau rydych yn llosgi.

b)

Pan mae'r caloriau i mewn yr un peth na'r caloriau rydych yn llosgi.

c)

Pan mae'r caloriau i mewn yn uwch na'r caloriau rydych yn llosgi.

12.

Beth yw ystyr y term cydbwysedd egni negyddol?

a)

Pan mae'r caloriau i mewn yn llai na'r caloriau rydych yn llosgi.

b)

Pan mae'r caloriau i mewn yr un peth na'r caloriau rydych yn llosgi.

c)

Pan mae'r caloriau i mewn yn uwch na'r caloriau rydych yn llosgi.

13.

Beth yw ystyr y term cydbwysedd egni positif?

a)

Pan mae'r caloriau i mewn yn uwch na'r caloriau rydych yn llosgi.

b)

Pan mae'r caloriau i mewn yr un peth na'r caloriau rydych yn llosgi.

c)

Pan mae'r caloriau i mewn yn llai na'r caloriau rydych yn llosgi.

14.

Gallu'r galon i bwmpio ocsigen o amgylch y corff am gyfnod hir o ymarfer. Diffiniad pa gydra yw hyn?

a)

Cryfder

b)

Dygnwch cyhyrol

c)

Dygnwch cardiofasgwlaidd

d)

Cydbwysedd

15.

Pa brawf / profion ffitrwydd sy'n mesur cryfder?

a)

Prawf naid hir o sefyll

b)

Prawf gwthiadau 60 eiliad

c)

Prawf 1 rep max

d)

Prawf gafaeliad dynamomedr

16.

Pa brawf / profion ffitrwydd sy'n mesur Ystwythder?

a)

Prawf Illinois

b)

Prawf taflu a dal

c)

Prawf sefyll storc

d)

Prawf eistedd ac ymestyn

17.

Pa brawf / profion ffitrwydd sy'n mesur Hyblygrwydd?

a)

Prawf gwibio 30m

b)

Prawf aml gam

c)

Prawf sefyll storc

d)

Prawf eistedd ac ymestyn

18.

Pa brawf / profion ffitrwydd sy'n mesur Dygnwch cardiofasgwlaidd?

a)

Prawf 12 munud Cooper

b)

Prawf aml gam

c)

Prawf gwibio 30m

d)

Prawf eisteddiadau 30 eiliad

19.

Beth yw ystyr y term dilysrwydd (validity)?

a)

Bod y prawf yn mesur y cydran ffitrwydd mae'n bwriadu mesur.

b)

Bod y canlyniadau yn debyg os y byddwch yn ail-wneud y prawf.

c)

Bod y prawf yn ddiogel i'w wneud.

d)

Bod yr offer i gyd yn gywir.

20.

Beth yw ystyr y term dibynadwyedd (reliability)?

a)

Bod y prawf yn mesur y cydran ffitrwydd mae'n bwriadu mesur.

b)

Bod y canlyniadau yn debyg os y byddwch yn ail-wneud y prawf.

c)

Bod y prawf yn ddiogel i'w wneud.

d)

Bod yr offer i gyd yn gywir.

21.

Pa ddull / ddulliau ymarfer sy'n cael ei ddefnyddio i wella pwer?

a)

Ymarfer ysbeidiol.

b)

Ymarfer S.A.Q.

c)

Ymarfer plyometrig.

d)

Ymarfer ar uchder.

22.

Pa ddull / ddulliau ymarfer sy'n cael ei ddefnyddio i wella cryfder?

a)

Ymarfer pwysau efo pwysau canolig a repiau uchel.

b)

Ymarfer plyometrig.

c)

Ymarfer pwysau efo pwysau trwm a repiau isel.

d)

Ymarfer ysbeidio.

23.

Pa ddull / ddulliau ymarfer sy'n cael ei ddefnyddio i wella cyflymder?

a)

Ymarfer di-dor.

b)

Ymarfer ysbeidiol.

c)

Ymarfer cylchffordd.

d)

Ymarfer ar uchder.

24.

Pa ddull / ddulliau ymarfer sy'n cael ei ddefnyddio i wella dygnwch cardiofasgwlaidd?

a)

Ymarfer ysbeidiol.

b)

Ymarfer fartleg.

c)

Ymarfer di-dor.

d)

Ymarfer pwysau.

25.

Beth yw ystyr y term ymarfer anaerobig?

a)

Ymarfer ar ddwysedd uchel.

b)

Ymarfer gan ddefnyddio ocsigen.

c)

Ymarfer heb bresenoldeb ocsigen.

d)

Ymarfer am gyfnod hir.