wayground logo

Free Printable Worksheets

NEW

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Effaith gweithgaredd dynol ar dirweddau Cymru

Total questions: 18

Worksheet time: 9mins

Name
Class
Date
1.

Mae llawer o gerddwyr yn erydu’r llwybrau a’r tir naill ochr iddynt.

a)

Positif

b)

Negatif

2.

Mae’r ardal yn dod yn boblogaidd ac felly mae prisiau tai yn codi, ac yn gorfodi pobl leol i adael i brynu tai rhywle rhatach.

a)

Positif

b)

Negatif

3.

Diwylliant a thraddodiadau lleol yn diflannu wrth i’r pobl ifanc leol adael (o achos y cynydd yn y prisiau tai).

a)

Positif

b)

Negatif

4.

Mewnfudwyr di-gymraeg yn achosi newidiadau diwylliannol e.e. dirywiad yr iaith Gymraeg.

a)

Positif

b)

Negatif

5.

Mae problemau gyda thagfeydd traffig yn enwedig yn misoedd yr haf felly mae amser teithio pobl lleol yn hirach.

a)

Positif

b)

Negatif

6.

Mae cŵn yn broblem yn aml wrth iddynt aflonyddu ar dda byw (cattle e.e defaid) ac anafu’r anifeiliaid sy’n costio arian i’r ffarmwr.

a)

Positif

b)

Negatif

7.

Mae cerddwyr sy’n gadael gatiau fferm ar agor yn aml yn gyfrifol am adael da byw (cattle e.e. defaid) i ddianc i’r brif ffordd a chael eu lladd.

a)

Positif

b)

Negatif

8.

Mae twristiaeth yng Nghymru yn dymhorol iawn ac yn digwydd yn bennaf yn yr haf. Nid oes incwm yn dod i mewn i'r ardal yn y gaeaf.

a)

Positif

b)

Negatif

9.

Mae cymunedau ffermio traddodiadol yn dirywio (decline) wrth i ffermwyr troi at weithgareddau economaidd sy’n ymwneud a thwristiaeth i greu incwm yn lle ffermio e.e clay pigeon shooting, maes carafannau, paint balling, gwely a brecwast.

a)

Positif

b)

Negatif

10.

Bydd cynnydd mewn ymwelwyr yn cadw gwasanaethau lleol i fynd e.e siopau, gwsanaethau bws a swyddfeydd post.

a)

Positif

b)

Negatif

11.

Mae'n creu incwm i’r economi leol. Mae twristiaeth werth £136 milwin y flwyddyn—£4000 i bawb sy’n byw ym Mharc Cenedlethol Bannau Brycheiniog.

a)

Positif

b)

Negatif

12.

Trwy ddarparu swyddi yr ydych yn lleihau allfudo a diboblogi gwledig ac yn helpu i ddiogelu cymdeithasau gwledig traddodiadol.

a)

Positif

b)

Negatif

13.

Twristiaeth yn darparu o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol i’r boblogaeth leol e.e. perchnogion gwestai a gweithwyr cwmnïoedd sy’n darparu gwasanaethau londri i olchi dillad gwely’r gwesteion.

a)

Positif

b)

Negatif

14.

Mae byrddau gwybodaeth yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth yr ymwelwyr. Pan mae ymwelwyr yn cerdded trwy fannau o bwysigrwydd amgylcheddol, byddent yn fwy tueddol o barchu’r rheolau er mwyn diogelu’r amgylchedd ar ôl darllen y wybodaeth ar y byrddau hyn.

a)

Positif

b)

Negatif

15.

Mae 88% o dwristiaid yn ymweld ar gyfer y bywyd gwyllt a golgyfeydd felly bydd cynefin bywyd bwyllt yn cael ei amddiffyn.

a)

Positif

b)

Negatif

16.

Hybu busnesau newydd i sefydlu sy’n cefnogi buddsoddiad i rheolaeth amgylcheddol e.e. Geo-Caching a Cynllun Green Dragon.

a)

Positif

b)

Negatif

17.

Mae ymweld ag amgylcheddau gwahanol yn codi ymwybyddiaeth y twristiaid o'r amgylchedd hwnnw gan gynnwys y bywyd natur sy’n unigryw i’r ardal.

a)

Positif

b)

Negatif

18.

Mwy o alw am deunydd a bwydydd lleol sy’n lleihau milltiroedd bwyd a chadw elw i’r ardal

a)

Positif

b)

Negatif