wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Datrys problemau: unedau metric

Total questions: 16

Worksheet time: 3hrs 31mins

Name
Class
Date
1.

Mae car yn pwyso 1.3 tunnell. Os mae 4 person (sydd yn pwyso 70 kg yr un) a 50 kg o fagiau yn y car, beth fydd pwysau'r car a phopeth ynddo mewn kg?

(a)  

2.

Mae car efo uchder o 1.7 m. Mae bocs tô efo uchder 65 cm yn cael ei roi ar ben y car. Beth fydd uchder y car nawr mewn metrau?

(a)  

3.

Mae raff llong efo hyd 20 metr. Sawl gwaith gall y rhaff mynd o amgylch 'drum' efo cylchedd (circumference) 80 cm?

(a)  

4.

Mae adeiladwyr angen 8 darn o bren sy'n 42 cm o hyd. Mae nhw'n prynu hyd o bren 4 m ac yn bwriadu torri hynny er mwyn cael y darnau. Sawl cm o bren bydd yn wastraff?

(a)  

5.

Mae can Coca-Cola efo cynhwysiant 330 ml ac yn dod mewn 'multipack' o 6. Mae potel Coca-cola fawr efo cynhwysiant 2 litr. Mewn mililitrau, faint yn fwy o ddiod sydd yn y botel nac yn y multipack?

(a)  

6.

Mae 'sprint triathlon' yn cwmpasu ras nofio 400 m, ras beicio 10 km a ras rhedeg 2.5 km. Beth yw cyfanswm pellter y triathlon mewn metrau?

(a)  

7.

Mae siop losin yn gosod cost o £1.40 fesul 100g o cola bottles. Beth fuasai cost 2 kg o cola bottles?

(a)  

8.

Mae eliffant yn sefyll ar un ochr clorian. Os mae'r eliffant yn pwyso 5 tunnell ac mae dyn arferol yn pwyso 80 kg, o leiaf sawl dyn arferol buasai angen sefyll ar ochr arall y glorian i godi'r eliffant?

(a)  

9.

Mae malwoden yn gallu teithio ar gyflymder o dua 500 metr pob awr. Pa mor hir (mewn oriau) bydd yn cymryd i'r malwoden deithio 2.5 km?

(a)  

10.

Mae Lowri yn rhedeg 5km ar drac rhedeg 200 m. Sawl gwaith sydd angen iddi fynd o amgylch y trac i fwrw 5km?

(a)  

11.

Mae pysgodyn aur efo hyd o 6cm.

Mae morfil las gyda hyd o 30 metr.

Sawl pysgodyn aur sydd angen rhesi lan un ar ôl y lall er mwyn cael cadwyn yr un mor hir a morfil las?

(a)  

12.

Ar ei thaith awyren i weld ei mab yn America, mae Deborah efo lwfans (allowance) bagiau o 20 kg. Mae mab Deborah yn gofyn iddi ddod a mars bars iddo oherwydd nad ydynt ar gael yn America. Petai Deborah yn llenwi ei bag gyda mars bars yn unig, sawl un bydd yn bosib iddi gludo?

Mae bag Deborah yn pwyso 1.2 kg pan yn wag ac mae un mars bar yn pwyso 50 g.

(a)  

13.

Uchder y mynydd Everest yw 8,849 metr. Dyfnder y Mariana Trench, sef man dyfnaf y môr, yw 11 km. Petai mynydd Everest yn cael ei symud i waelod y Mariana Trench, sawl metr byddai rhwng copa Everest a'r arwyneb (the surface)?

(a)  

14.

Uchder bric Lego yw 9.6 mm.

Mae twr (tower) Lego uchaf y byd efo 3650 bric ar ben ei gilydd. Beth yw uchder y twr yma mewn metrau?

(a)  

15.

Defnyddir briciau gydag uchder 75 mm, a haen mortar 1cm rhwng y briciau, er mwyn creu wal yn y llun. Mae angen haen mortar rhwng y briciau a rhwng y briciau a'r garreg ar ben y wal, ond ddim o dan y wal. Mae'r garreg ar ben y wal efo uchder 2 cm.

Pa mor uchel yw'r wal frics yma mewn metrau?

(a)  

16.

Her: mae'r Ddaear efo cylchedd 40,075 km. Os mae pobl yn dal dwylo (efo pellter o 1.6 metr rhwng eu dwylo), ac yn anwybyddu bod môr yn y ffordd, faint o bobl bydd angen i amgylchynu'r Ddaear?

(a)