wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Uned 2.4 Amrywiad ac esblygiad

Total questions: 26

Worksheet time: 15mins

Name
Class
Date
1.

Mae gametau’n cael eu cynhyrchu gyda hanner y wybodaeth enetig am y ddau riant. Mae cyfuniad o’r gametau hyn wrth ffrwythloni yn cynhyrchu epil newydd. Pa fath o atgenhedlu yw hwn?

a)

Rhywiol

b)

Anrhywiol

2.

Mae epil yn dangos amrywiad genynnol ac fel rhywogaeth mae'n fwy tebygol o oroesi yn ystod newid amgylcheddol sydyn Pa fath o atgenhedlu yw hwn?

a)

Rhywiol

b)

Anrhywiol

3.

Mae epil yn cael ei gynhyrchu gan 1 rhiant. Nid oes unrhyw egni yn cael ei wastraffu ar gametau a dod o hyd i gymar sy’n golygu bod sawl epil yn gallu cael ei gynhyrchu’n gyflym. Pa fath o atgenhedlu yw hwn?

a)

Rhywiol

b)

Anrhywiol

4.

Dim amrywiad genynnol. Mae epil yn glôn o'r rhiant; maen nhw'n enetig unfath.. Pa fath o atgenhedlu yw hwn?

a)

Rhywiol

b)

Anrhywiol

5.

Nodweddion yw’r rhain sy’n cael eu hachosi gan enynnau, a etifeddwyd o DNA rhieni. Er enghraifft, lliw llygaid, math o waed, gallu rholio’r tafod, lliw blodyn.

a)

Ffactorau genynnol

b)

Ffactorau amgylcheddol

6.

Nodweddion yw’r rhain sy’n newid oherwydd yr amgylchedd. Er enghraifft, datblygiad iaith, tatŵs a thyllau yn y corff, cystadleuaeth mewn planhigion yn lleihau mynediad at olau neu ddŵr yn cyfyngu tyfu.

a)

Ffactorau genynnol

b)

Ffactorau amgylcheddol

7.

Beth yw esblygiad

a)

Newid mewn rhywogaethau dros amser.

b)

Amrywiadau mewn rhywogaeth y gellir eu hetifeddu (etifeddol).

8.

Gweithiodd Charles Darwin a (A) ar ddamcaniaeth esblygiad drwy (B). Beth yw A?

(a)  

9.

Gweithiodd Charles Darwin a (A) ar ddamcaniaeth esblygiad drwy (B). Beth yw B?

(a)  

10.

Mae newidiadau ar hap mewn genynnau yn achosi amrywiadau mewn rhywogaeth. Pa rhan o detholiad naturiol yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Amrywiad

c)

Cystadlu'n well

d)

Goroesi

e)

Bridio + Trosglwyddo

11.

Mae gwahaniaethau bach o fewn rhywogaeth yn golygu bod rhai unigolion wedi’u haddasu’n well i’r amgylchedd. Pa rhan o detholiad naturiol yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Amrywiad

c)

Cystadlu'n well

d)

Goroesi

e)

Bridio + Trosglwyddo

12.

Mae organebau’n cystadlu i oroesi, gall fod gan rhai enyn sy’n galluogi ymwrthedd i docsin. Pa rhan o detholiad naturiol yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Amrywiad

c)

Cystadlu'n well

d)

Goroesi

e)

Bridio + Trosglwyddo

13.

Mae gan y rhai sydd â genynnau manteisiol fantais ddetholus dros eraill. Gallant gystadlu’n well am adnoddau neu oroesi gwrthfiotig, plaleiddiad neu docsin arall sy’n lladd eraill o’r rhywogaeth. Pa rhan o detholiad naturiol yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Amrywiad

c)

Cystadlu'n well

d)

Goroesi

e)

Bridio + Trosglwyddo

14.

Gall yr organebau sy’n goroesi fridio, gan drosglwyddo eu genynnau manteisiol i’r genhedlaeth nesaf. Pa rhan o detholiad naturiol yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Amrywiad

c)

Cystadlu'n well

d)

Goroesi

e)

Bridio + Trosglwyddo

15.

Os yw newid amgylcheddol yn digwydd yn rhy gyflym i rywobaeth addasu yn ol detholiad naturiol, gall (a)   digwydd

16.

Yn cael ei reoli gan fwy nag un genyn a ffactorau amgylcheddol fel taldra a phwysau. Pa fath o amrywiad yw hwn?

a)

Amrywiad parhaus

b)

Amrywiad amharhaus

17.

Mae fel arfer yn cael ei reoli gan un genyn ac felly mae unigolion yn perthyn yn glir i grwpiau arwahanol fel lliw llygaid, math o waed. Pa fath o amrywiad yw hwn?

a)

Amrywiad parhaus

b)

Amrywiad amharhaus

18.

Pa fath o amrywiad ydy'r graff yma'n dangos?

a)

Amrywiad parhaus

b)

Amrywiad amharhaus

19.

Pa fath o amrywiad ydy'r graff yma'n dangos?

a)

Amrywiad parhaus

b)

Amrywiad amharhaus

20.

- Newid mewn genyn. Maent yn digwydd ar hap ond gellir cynyddu’r gyfradd mwtaniad drwy belydriad sy’n ïoneiddio. Gellir etifeddu rhai _____ a gallant achosi clefyd. Beth yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Ffibrosis cystig

21.

Clefyd sy’n cael ei etifeddu’n enetig. Beth yw hwn?

a)

Mwtaniad

b)

Ffibrosis cystig

22.

Beth gall ffibrosis cystig achosi?

a)

Mwcws gludiog trwchus sy’n blocio bronciolynnau yn yr ysgyfaint.

b)

Esgyrn y benglog i asio â'i gilydd yn llawer cynharach nag arfer, cyn i'r ymennydd dyfu'n llawn.

23.

Beth gallwn defnyddio i drin ffibrosis cystig?

a)

Therapi genynnau

b)

Ymarfer anadlu

24.

Yn y triniaeth y ffibrosis cystig, sut ydyn yn cael y genyn i gelloedd yr ysgyfaint?

(a)  

25.

Beth ydy therapi genynnau i ffibrosis cystig?

a)

Triniaeth

b)

Gwellhad

26.

Beth sydd rhaid cofio am therapi genynnol i ffibrosis cystig?

a)

Wrth i gelloedd adnewyddu, nid yw’r genyn yn cael ei gopïo ac felly nid yw celloedd newydd yn cynnwys y genyn normal.

b)

Wrth i gelloedd adnewyddu, mae'r genyn yn cael ei gopio ac felly mae'r celloedd newydd yn cynnwys y genyn normal.