wayground logo

Free Printable Worksheets

Font size

S
M
L
XL
Worksheets

Nifer Disgwyliedig TGAU (+ datrys problem)

Total questions: 40

Worksheet time: 1hrs 20mins

Name
Class
Date
1.

Mae ceiniog yn cael ei daflu 100 gwaith.

Sawl gwaith fyddech chi'n disgwyl cael pen (heads)?

a)

25

b)

50

c)

75

d)

100

2.

Beth yw'r fformiwla ar gyfer nifer disgwyliedig?

a)

Tebygolrwydd x nifer o dreialon

b)

Tebygolrwydd ÷ nifer o dreialon

c)

Nifer o dreialon ÷ tebygolrwydd

d)

1 - tebygolrwydd

3.

Os rydych chi'n taflu dis teg 180 gwaith, sawl gwaith byddech chi'n disgwyl cael 5?

a)

30

b)

20

c)

25

d)

50

e)

45

4.

Y tebygolrwydd o ennill gêm raffl yw 25\frac{2}{5} .

Mae 40 person yn chwarae'r gêm.

Beth yw'r nifer disgwyliedig o enillwyr?

(a)  

5.

Os rydych chi'n dewis pêl ar hap o'r jar yma (a rhoi e'n ôl) 200 gwaith, sawl gwaith byddech chi'n disgwyl dewis pêl goch?

(a)  

6.

Os ydw i'n dewis rhan o'r troellwr yma ar hap 60 gwaith, sawl gwaith dylwn i ddisgwyl cael '3'?

(a)  

7.

Mae ceiniog yn cael ei daflu 100 gwaith.

Y nifer disgwyliedig o ganlyniadau pen (heads) yw 50. Ydy hyn yn golygu bydd yna union 50 pen pob tro?

a)

Ydy

b)

Nac ydy

8.

Wrth i chi daflu'r ceiniog mwy o weithiau, beth allwch chi ddisgwyl i digwydd?

a)

Bydd yna mwy o ganlyniadau 'pen' o gymharu â chanlyniadau 'cynffon'.

b)

Bydd y nifer o ganlyniadau 'pen' yn dod yn agosach at y nifer disgwyliedig.

c)

Bydd mwy o ganlyniadau 'cynffon' o gymharu â chanlyniadau 'pen'.

d)

Bydd un o'r canlyniadau (pen neu gynffon) yn dod yn fwy tebygol na'r un arall.

9.

Os rydw i'n chwarae gêm o rock, paper scissors 12 gwaith, sawl gwaith byddech chi yn disgwyl y bydd y canlyniad yn gyfartal (draw)?

a)

3 gwaith

b)

4 gwaith

c)

5 gwaith

d)

6 gwaith

10.

Mae cwmni trennau wedi cyfrifo mai tebygolrwydd fod trên yn hwyr yn cyrraedd Gorsaf Caerdydd Canolog yw 0.25. Mae 56 trên yn cyrraedd yr orsaf heddiw. Sawl un ydy'r cwmni yn disgwyl i fod ar amser?

(a)  

11.

Mae dis wyth-ochrog yn cael ei rowlio 100 gwaith.

Sawl gwaith ydych chi'n disgwyl rowlio rhif sy'n fwy na 6?

(a)  

12.

Y tebygolrwydd o rowlio cyfanswm o 4 gyda dau ddis teg yw 112\frac{1}{12} .

Wrth chwarae Monopoly gyda'i deulu dros gyfnod o oriau, roedd Jacob wedi taflu'r dis 60 gwaith. Sawl gwaith ydych chi'n disgwyl iddo fod wedi rowlio cyfanswm o 4 gyda'r ddau ddis?

(a)  

13.

Y tebygolrwydd y bydd awyren yn cyrraedd yn gynnar yw 38\frac{3}{8} .

Mae maes awyrennau Rhodes yn cael 40 hediad (flight) y diwrnod ym mis Rhagfyr. Sawl un ydych chi'n disgwyl i gyrraedd yn gynnar?

(a)  

14.

Rydych chi'n taflu dis 150 gwaith. Sawl gwaith ydych chi'n disgwyl rowlio rhif sgwâr?

(a)  

15.

Y tebygolrwydd bydd gormod o wynt i redeg yr olwyn fawr ym Mae Cerdydd ar ddiwrnod penodol yw 0.02. Mae'r olwyn fawr ar agor am hyd at 150 diwrnod y flwyddyn, ond sawl diwrnod ydych chi'n disgwyl i'r olwyn fod yn gallu rhedeg?

a)

150 diwrnod

b)

100 diwrnod

c)

149 diwrnod

d)

148 diwrnod

e)

147 diwrnod

16.

Y tebygolrwydd bydd larwm dân yn canu ar ddiwrnod yn yr ysgol yw 0.03

Mae'r ysgol ar agor tua 200 diwrnod y flwyddyn.

Sawl gwaith byddech chi'n disgwyl i'r larwm dân ganu dros y flwyddyn ysgol?

(a)  

17.

Mae dis deg-ochrog teg efo'r rhifau 1-10 ar ei wynebau. Mae'r dis yn cael ei rowlio 40 gwaith. Beth yw'r nifer disgwyliedig o weithiau mae rhif sgwâr yn cael ei rowlio?

(a)  

18.

Y tebygolrwydd o ennill gêm raffl yw 0.35.

Mae 200 person yn chwarae'r gêm.

Beth yw'r nifer disgwyliedig o enillwyr?

(a)  

19.

Yn ystod yr ymgyrch McDonald's Monopoly, mae un ym mhob deuddeg cwsmer ar gyfartaledd yn ennill tocyn bwyd am ddim.

Mae safle McDonald's yn gweini 600 cwsmer bob diwrnod. Disgwylir i gwsmeriaid ennill sawl tocyn bwyd am ddim pob diwrnod felly?

(a)  

20.

Mae'r troellwr teg yma yn cael ei droi 48 gwaith. Sawl gwaith fyddech chi'n disgwyl cael 'Cyan'?

(a)  

21.

Y tebygolrwydd o ddewis pêl felen o'r jar ar hap yw 0.15. Petawn i'n dewis pêl ar hap o'r jar 500 gwaith, sawl pêl felen fyswn i'n disgwyl dewis?

(a)  

22.

Y tebygolrwydd o weld morfil ar daith gwylio morfil ym mis Medi yn Seland Newydd yw 45\frac{4}{5} . Mae cwmni yn rhedeg 2 daith y dydd dros y mis gyfan yma. Sawl taith fyddech chi'n disgwyl i beidio gweld morfil?

(a)  

23.

Mae'r llywodraeth yn rhagfynegi y bydd 350,000 babi yn cael eu geni flwyddyn nesaf. Sawl babi sy'n debygol o gael eu geni ar benwythnos?

a)

140,000

b)

100,000

c)

120,000

d)

80,000

e)

70,000

24.

Mae dis wyth-ochrog yn cael ei rowlio 100 gwaith.

Sawl gwaith ydych chi'n disgwyl rowlio rhif cysefin?

(a)  

25.

Mae daeargrynfeydd (earthquakes) yn cael eu mesur tua 60 gwaith y diwrnod ar draws y Ddaear ac mae'r mwyafrif o rhain yn wan. Maent yn gallu digwydd ar unrhyw amser y dydd. Beth yw'r nifer disgwyliedig o ddaeargrynfeydd dyddiol sy'n digwydd ar draws y Ddaear rhwng canol nos a 6 o'r gloch yn y bore?

(a)  

26.

Y tebygolrwydd o ennill ar y stondin bottle toss mewn ffair yw 110\frac{1}{10} fesul tro. Mae 3157 o bobl wedi rhoi tro ar y stondin yr wythnos hon. Beth yw'r nifer disgwyliedig o enillwyr?

Talgrynnwch eich ateb i'r person agosaf.

(a)  

27.

Mae'r troellwr yma yn cael ei droi 80 gwaith. Sawl gwaith fyddech chi'n disgwyl cael y lliw 'gwyrdd' neu y lliw 'gwyrdd golau'?

(a)  

28.

Mae Tesco yn cyfrifo mai'r tebygolrwydd o rhywun sy'n prynu brechdan hefyd yn prynu diod a chreision fel rhan o 'meal deal' yw 34\frac{3}{4} . Mae 280 person yn prynu brechdan mewn un siôp. Beth yw'r nifer disgwyliedig o'r rhain sydd yn prynu'r diod a chreision hefyd?

(a)  

29.

Mae rhif cyfan rhwng 1-20 yn cael ei ddewis ar hap gan gyfrifiadur.

Mae'r broses yma yn digwydd 500 gwaith.

Beth yw'r nifer disgwyliedig o luosrifau 3 sy'n cael eu dewis?

(a)  

30.

Oherwydd mae cymaint o ysglyfaethwyr (predators), mae gwyddonwyr yn rhagfynegi mai tebygolrwydd y bydd crwban y môr sydd newydd ddeori (hatch) yn goroesi i fod yn oedolyn yw 0.1.

Ar un traeth eleni, mae 3000 o grwbanod y môr bach yn deori. Sawl un fyddech chi'n disgwyl i oroesi i fod yn oedolyn?

(a)  

31.

Mae chwrligwgan (roller-coaster) 'Stealth' yn Thorpe Park weithiau yn methu mynd heibio'r copa ac mae'n cwympo yn ôl i lawr. Mae hyn yn digwydd gyda tebygolrwydd o 0.25 pob awr. Mae'r parc ar agor am gyfanswm o 48 awr dros yr wythnos hon. Beth yw'r nifer disgwyliedig o fethiannau yn yr amser yma?

(a)  

32.

Mae dis deg-ochrog teg efo'r rhifau 1-10 ar ei wynebau. Mae'r dis yn cael ei rowlio 50 gwaith. Beth yw'r nifer disgwyliedig o weithiau mae rhif cysefin yn cael ei rowlio?

(a)  

33.

Mae Dewi yn edrych ar ddata tywydd lleol dros flwyddyn dwythaf i gyd ac yn cyfrifo mai'r tebygolrwydd o gael machlud haul clir (heb gymylau yn y ffordd) o'i dŷ yw 0.46. Dros gyfnod o 200 diwrnod, beth yw'r nifer disgwyliedig o fachlud haul clir?

(a)  

34.

Cofiwch i ddefnyddio cefn eich llyfr i wneud gweithio mas

Mae 900 o ddisgyblion mewn ysgol. Amcangyfrifwch sawl un fydd yn cael penblwydd ym mis Mehefin.

a)

75

b)

90

c)

100

d)

64

e)

120

35.

Mae cwmni insiwrans yn cyfrifo mai tebygolrwydd y bydd cwsmeriaid yn cael difrod car pob blwyddyn yw 0.05.

Mae tua 400,000 cwsmer gan y cwmni. Sawl un ydy'r cwmni yn disgwyl i gael difrod car dros 3 blwyddyn?

(a)  

36.

Mae cwmni loteri lleol yn addo "bydd 1000 o enillwyr ar y loteri dydd Gwener".

Mae 20,000 yn prynu tocyn loteri.

Beth yw'r tebygolrwydd o ennill rhywfaint ar y loteri ar ddydd Gwener?

a)

0.05

b)

0.02

c)

0.5

d)

0.2

e)

0.025

37.

Defnyddiwch bensil a phapur!

Mae defaid yn gallu cael unai 1, 2 neu 3 oen.

Y tebygolrwydd o gael un oen yn unig yw 0.15.

Y tebygolrwydd fod dafad yn geni 2 oen yw 35\frac{3}{5} .

Mae ffermwr efo 100 o ddefaid beichiog. Sawl oen dylai hi ddisgwyl cael eleni?

(a)  

38.

Defnyddiwch bensil a phapur a chymrwch eich amser!

Mae cwmni trennau yn cynnig ad-daliad (refund) os mae'r trên o Gaerdydd i Lundain yn hwyr. Os mae trên rhwng 30 munud ac 1 awr yn hwyr mae angen talu £20. Os mae'n fwy nac awr yn hwyr, rhaid talu £50.

Y tebygolrwydd bod trên yn gynnar, ar amser neu yn llai na 30 munud yn hwyr yw 0.7. Y tebygolrwydd ei fod rhwng 30 munud ac awr yn hwyr yw 0.2.

Os rydw i'n gwneud y daith trên yma 10 gwaith y flwyddyn, faint ydw i'n mynd i ddisgwyl cael fel ad-daliadau am drennau hwyr?

(a)  

39.

Mae Holly yn rhedeg stondin hufen iâ. Ar bob diwrnod ble mae'n bwrw glas, mae hi'n colli £80 ar gyfartaledd. Ar bob diwrnod lle nad yw hi'n bwrw, mae holly yn gwneud elw o £150. Y tebygolrwydd ei bod hi'n bwrw glas yn ystod y 100 diwrnod mae hi'n gweithio yw 0.3.

Dros y 100 diwrnod yma, beth yw ei helw disgwyliedig?

a)

£7200

b)

£8100

c)

£7500

d)

£8400

e)

£6900

40.

Defnyddiwch bapur a phensil!

Rydw i'n chwarae gêm efo dis teg. Ar ddechrau'r gêm rydw i'n rowlio dis 30 gwaith i weld sawl symudiad dwi'n gallu gwneud yn ystod y gêm. Os dwi'n rowlio 6, dwi'n cael mynd ymlaen 3 sgwâr. Os ydw i'n rowlio 4 neu 5, dwi'n cael mynd ymlaen 1 sgwâr. Nid oes unrhyw symudiadau am rowlio 1, 2 neu 3.

Beth yw'r nifer disgwyliedig o sgwariau byddwn i'n gallu symud?

a)

20 sgwâr

b)

18 sgwâr

c)

12 sgwâr

d)

25 sgwâr

e)

24 sgwâr