Font size
WorksheetsDefnyddio Amlder Cymharol
Total questions: 24
Worksheet time: 17mins
Mae Joe yn taflu ceiniog ac yn cyfri sawl 'cynffon' mae e'n cael ar geiniog teg.
Wrth i Joe daflu mwy a mwy o weithiau, beth fyddech chi'n disgwyl i ddigwydd?
Bydd yr amlder cymharol yn dod yn agosach at 1
Bydd yr amlder cymharol yn dod yn agosach at 0
Bydd yr amlder cymharol yn dod yn agosach at 0.5
Bydd yr amlder cymharol yn dod yn agosach at 0.2
Mae amlder cymharol yn gallu cael ei ddefnyddio fel amcangyfrif ar gyfer...
tebygolrwydd
nifer disgwyliedig
nifer y treialon
diagram Venn
Mae'r amlder cymharol yn well amcangyfrif o debygolrwydd os:
mae nifer y treialon yn uchel
mae nifer y treialon yn isel
mae'r amlder cymharol yn agos i 0.5
mae'r amlder cymharol yn agos i 1
Mae ceiniog yn cael ei daflu 10 gwaith ac mae e'n glanio ar gynffon 7 gwaith.
Yr amlder cymharol felly yw 7 ÷ 10 = 0.7.
Beth mae hyn yn ddweud i chi am y geiniog?
Mae'r geiniog yn deg
Mae'r geiniog yn anheg
Dim byd, does dim digon o dreialon wedi digwydd.
Mae ceiniog yn cael ei daflu 1000 gwaith ac mae e'n glanio ar gynffon 700 gwaith.
Yr amlder cymharol felly yw 700 ÷ 1000 = 0.7.
Beth mae hyn yn ddweud i chi am y geiniog?
Mae'r geiniog yn deg
Mae'r geiniog yn anheg
Dim byd, does dim digon o dreialon wedi digwydd.
Mae cyfrifiadur yn ceisio dyfalu os mae llun yn dangos sloth neu pain au chocolat. Mae'r amlder cymharol o ganlyniadau cywir yn:
0.4 ar ôl 10 ymgais;
0.78 ar ôl 100 ymgais;
0.74 ar ôl 500 ymgais.
Beth yw eich amcangyfrif gorau am y tebygolrwydd bydd y cyfrifiadur yn dewis yn gywir tro nesaf?
0.4
0.78
0.74
0.55
(cymedr y 3 rhif)
Mae Geraint yn edrych ar ystadegau ei hoff dîm pêl-droed.
Mae e'n gweld eu bod wedi ennill 36 gêm a cholli 24 gêm yn erbyn Howells F.C.
Beth felly yw'r amcangyfrif gorau ar gyfer tebygolrwydd bydd ei hoff dîm pêl-droed yn ennill y gêm nesaf yn erbyn Howells F.C.?
0.67
0.6
0.5
0.75
0.7
Cofiwch:
Nifer Disgwyliedig = Tebygolrwydd × Nifer (y treialon)
Er enghraifft, os tebygolrwydd bwrw glas ar ddiwrnod yng Nghaerdydd yw 0.4, beth yw'r nifer disgwyliedig o ddiwrnodiau efo glaw dros 500 diwrnod?
500 ÷ 4 =
125 diwrnod
0.4 x 500 =
200 diwrnod
500 + 0.4 =
504 diwrnod
500 - 4 =
496 diwrnod
Mae dis arferol yn cael ei rowlio nifer fawr o weithiau ac mae amlder cymharol pob sgôr yn cael ei gofnodi.
Rowlio 1: 0.18 Rowlio 2: 0.2
Rowlio 3: 0.15 Rowlio 4: (a)
Rowlio 5: 0.12 Rowlio 6: 0.13
Beth yw amlder cymharol rowlio 4?
Taflwyd dis sawl gwaith ac mae amlder cymharol pob sgôr yn cael ei gofnodi.
Rowlio 1: 0.18 Rowlio 2: 0.2
Rowlio 3: 0.15 Rowlio 4: 0.22
Rowlio 5: 0.12 Rowlio 6: 0.13
Mae'r dis wedi cael ei rowlio 100 gwaith.
Deiswch y datganiad cywir.
Mae'r dis yn amlwg yn anheg oherwydd mae rhai sgoriau wedi ymddangos yn fwy aml!
Mae'r dis yn amlwg yn deg oherwydd mae pob un amlder cymharol yn cytuno gyda beth ddylai fod am y sgoriau gwahanol.
Efallai fod y dis yn deg oherwydd mae'r amlder cymharol yn debyg ond fyddai ymchwiliad pellach efo mwy o dafliadau yn sicrhau hyn.
Mae Sara yn ysgrifennu rhan cyntaf traethawd ac mae ei hathro yn ei farcio.
Mae 7 mas o'r 20 llinell efo o leiaf un gwall sillafu.
Oni bai fod ei hysgrifennu yn gwella, sawl llinell efo o leiaf un gwall sillafu fyddech chi'n disgwyl bod arno traethawd llawn efo 300 llinell?
(a)
Mewn dosbarth blwyddyn 7, amlder cymharol disgyblion sydd heb Chromebook yw 0.1. Mewn blwyddyn cyfan o 170 o ddisgyblion, sawl un fyddech chi'n disgwyl i fod heb Chromebook?
(a)
Mae Meryl yn gweithio i Gyngor Caerdydd.
Mae hi'n ceisio rhagfynegi sawl tŷ yn y ddinas sydd efo paneli solar.
Mae hi'n dewis un ardal o 200 o dai, ac yn cyfri 48 efo paneli solar.
Beth yw amlder cymharol y tai efo paneli solar?
0.96
0.24
0.36
0.248
0.48
Mae Meryl yn gweithio i Gyngor Caerdydd.
Mae hi'n ceisio rhagfynegi sawl tŷ yn y ddinas sydd efo paneli solar.
Cyfrifodd hi mai amlder cymharol tai gyda phaneli solar yw 0.24.
Mae tua 90,000 o dai yn y ddinas.
Sawl un fyddech chi'n disgwyl i fod efo paneli solar?
Cewch ddefnyddio pensil a phapur, neu gyfrifiannell os oes wir angen
(a)
Mae Meryl yn gweithio i Gyngor Caerdydd.
Mae hi'n ceisio amcangyfrif sawl tŷ yn y ddinas sydd efo paneli solar.
Mae hi'n dewis un ardal o 200 o dai, ac yn cyfri 48 efo paneli solar.
Beth sydd angen i meryl fod yn ofalus iawn i sicrhau?
Bod y tai yn berchen ar y preswylwyr (residents) yn lle ei fod yn tai wedi rhentio
Bod y stryd efo tai ar naill ochr yr heol.
Bod yr haul mas
Bod y stryd yn gynrychioladol (representative) o'r ddinas gyfan.
Mae Robbie yn cofnodi ei freuddwydion mewn dyddiadur, ond dim ond os mae e'n cofio'i freuddwydion. Mae e wedi cofio 18 breuddwyd dros fis Mehefin cyfan.
Sawl breuddwyd fyddech chi'n disgwyl i fe gofio dros ei wyliau'r Haf, sy'n 45 diwrnod o hyd?
(a)
Mae ceiniog yn cael ei daflu sawl gwaith, ac unai pen neu gynffon yn cael ei gofnodi. Mae graff yn cael ei blotio sydd yn cymharu:
...y nifer o dafliadau sydd wedi bod hyd yn hyn ar yr echelin-x (llorweddol)...
...yn erbyn...
...amlder cymharol y cynffonau ar yr echelin-y (fertigol).
Pa graff fan hyn sydd yn dangos beth fyddech chi'n disgwyl i ddigwydd?
Mae gwyddonwyr yn archwilio caeau ac yn cofnodi os mae math prin o lydoden yn byw yno. Maent yn archwilio 25 cae ac yn cyfri 4 efo'r lygoden prin ynddo.
Trwy ddefnyddio'r amlder cymharol fel amcangyfrif ar gyfer y tebygolrwydd, cyfrifwch beth yw'r nifer disgwyliedig o gaeau efo'r llygoden prin ynddo ar draws 2000 cae.
(a)
Mae Super Mario yn gwirio ei Classcharts.
Mae e wedi cael 285 pwynt gwyrdd a 15 o bwyntiau coch hyd yn hyn.
Erbyn diwedd y flwyddyn mae Super Mario wedi derbyn 560 pwynt Classcharts.
Os nad yw ei ymddygiad ac ymdrech yn newid, sawl pwynt COCH fyddech chi'n disgwyl i fe fod efo ar ddiwedd y flwyddyn?
(a)
Mae ceiniog anheg yn cael ei daflu ac mae amlder cymharol y canlyniadau 'cynffon' o'r tafliadau hyd yn hyn yn cael eu gofnodi:
Ar ôl 10 tafliad: 0.3, ar ôl 20 tafliad: 0.45,
ar ôl 30 tafliad: 0.413, ar ôl 40 tafliad: 0.42
ar ôl 50 tafliad: 0.44, ar ôl 50 tafliad: 0.43
Mae'r ceiniog yn cael ei daflu 200 gwaith ychwanegol.
Sawl gwaith fyddech chi'n disgwyl i'r geiniog glanio ar 'pen'?
Defnyddiwch yr amcangyfrif gorau.
86 gwaith
44 gwaith
88 gwaith
90 gwaith
Mae Sherlock Holmes yn y carchar ac er mwyn cael ei ryddhau, mae angen iddo ateb cwestiwn yn gywir y tro cyntaf. Mae e'n derbyn bocs efo niferoedd gwahanol o beli gwyn, coch a glas. Dyw e ddim yn cael cyfri sawl pêl o liwiau gwahanol sydd yn y bocs, ond mae e yn cael gwybod bod 20 pêl i gyd, ac mae e'n cael cymryd un bêl mas o'r bocs ar y tro cyn belled ei fod yn rhoi e'n ôl cyn cymryd un arall. Mae angen i Sherlock Holmes ddyfalu yn gywir sawl pêl o bob lliw sydd yn y bocs. Mae Sherlock Holmes wedi derbyn addysg fathemategol gwerth chweil o Ysgol Bro Edern ac felly mae e'n penderfynu i gymryd peli o'r bocs a chofnodi sawl pêl o bob lliw mae e'n cael. Bydd yn defnyddio'r amlder cymharol i amcangyfrif y tebygolrwydd o ddewis, a felly'r nifer, o beli bob lliw yn y bocs. Beth fydd eich cyngor chi i Sherlock Holmes er mwyn cael yr ateb yn gywir tro cyntaf?
Sicrha dy fod yn gwneud hyn llwyth o weithiau er mwyn cael yr amcangyfrif gorau!
Gallet ti stopio cyfri'r peli gwyn unwaith ti wedi cael dau yn olynnol!
Os ti'n cael lluosrif 3 o beli coch, cychwynna gyfri eto oherwydd nid yw 3 yn mynd mewn i 20.
Mae angen i Sherlock Holmes ddyfalu yn gywir sawl pêl o bob lliw sydd yn y bocs. Mae 20 pêl i gyd. Mae e'n cymryd pêl ar hap 1000 o weithiau er mwyn sicrhau amcangyfrif cywir. Dyma yw ei ganlyniadau:
537 pêl gwyn, 93 pêl coch, 370 pêl glas.
Beth yw amlder cymharol y peli glas?
(a)
Mae angen i Sherlock Holmes ddyfalu yn gywir sawl pêl o bob lliw sydd yn y bocs. Mae 20 pêl i gyd. Mae e'n cymryd pêl ar hap 1000 o weithiau er mwyn sicrhau amcangyfrif cywir. Dyma'i ganlyniadau:
amlder cymharol peli gwyn = 0.537;
amlder cymharol peli coch = 0.093;
amlder cymharol peli glas = 0.37
Gan ddefnyddio'r amlder cymharol fel amcangyfrif ar gyfer y tebygolrwydd, sawl pêl coch fyddech chi yn disgwyl efo 20 pêl i gyd?
93 ÷ 20 = 4.65
--> 5 pêl
20 x 0.093 = 1.86
--> 2 bêl
9.3
--> 9 pêl
0.93
--> 1 bêl
Mae angen i Sherlock Holmes ddyfalu yn gywir sawl pêl o bob lliw sydd yn y bocs. Mae 20 pêl i gyd. Mae e'n cymryd pêl ar hap 1000 o weithiau er mwyn sicrhau amcangyfrif cywir. Dyma'i ganlyniadau:
amlder cymharol peli gwyn = 0.537;
amlder cymharol peli coch = 0.093;
amlder cymharol peli glas = 0.37
Gan ddefnyddio'r amlder cymharol fel amcangyfrif ar gyfer y tebygolrwydd, sawl pêl glas fyddech chi yn disgwyl efo 20 pêl i gyd?
(a)
