WorksheetsCwestiynau Effeithlonrwydd
Total questions: 10
Worksheet time: 25mins
Pa un o'r canlynol sydd yn cynrichioli y fformiwla ar gyfer effeithlonrwydd (Eff.)? Rhowch gylch o amgylch yr ateb cywir.
Eff. = Egni mewnEgni defnyddiol×100
Eff. =Egni mewnEgni gwastraff×100
Eff. =Egni mewnEgni defnyddiol
Mae peiriant yn cymryd 1 KJ o egni ac yn cynhyrchu 800J o allbwn egni defnyddiol. Cyfrifwch ei effeithlonrwydd.
Mae modur yn newid 800J o egni mewnbwn trydanol i 600J o egni mecanyddol defnyddiol. Cyfrifwch ei effeithlonrwydd.
Mae tyrbin gwynt yn derbyn 10 KW o bwer o'r gwynt ac yn ei newid i 7KW o bwer trydanol. Cyfrifwch ei effeithlonrwydd.
Mae teledu yn cymryd 800J o egni trydanol mewnbwn ac yn ei newid i 200J o egni sain a 400J o egni golau yn y sgrin. Cyfrifwch ei eiffeithlonrwydd.
Pa un o'r canlynol sydd yn cynrichioli y fformiwla ar gyfer egni defnyddiol? Rhowch gylch o amgylch yr ateb cywir (Cliw: Ail-drefnwch y fformiwla ar gyfer effeithlonrwydd!)
Effeithlonrwydd×Egni mewn
100Effeithlonrwydd×Egni mewn
EffeithlonrwyddEgni mewn
Mae modur yn newid 600J o egni trydanol i fewn i egni mecanyddol gyda effeithlonrwydd o 80%. Cyfrifwch ei egni defnyddiol.
Mae panel solar yn derbyn 4 KJ o olau haul ac yn ei newid i egni trydanol gyda effeithlonrwydd o 70%. Cyfrifwch ei egni defnyddiol.
Estynedig: Mae bylb golau yn cymryd 50J o egni trydanol ac yn rhoi allan 30J o egni gwres. Cyfrifwch ei effeithlonrwydd.
Estynedig: Mae car trydan yn cael effeithlonrwydd o 85%. Trafodwch y manteision a'r anfanteision o’i gymharu â cherbydau petrol o ran effeithlonrwydd ac egni gwastraff.
