WorksheetsAteb cwestiynau
Total questions: 10
Worksheet time: 8mins
Pa ateb sy'n gywir: Ydy hi'n bwrw glaw heddiw?
Do
Ydy
Ydw
Wyt
Pa ateb sy'n gywir: Oes anifail anwes gyda Sam?
Ydy
Oes
Ie
Pa ateb sy'n gywir: Aethoch chi i siopa neithiwr?
Naddo
Nac oes
Nac ydy
Pa ateb sy'n gywir: Aeth Elen i'w gwers nofio ar ddydd Sadwrn?
Ydy
Oes
Do
Ie
Pa ateb sy'n gywir: Ai gwyrdd yw lliw dy lygaid?
Ydy
Oes
Ie
Ydw
Pa gwestiwn sy'n gywir i'r ateb hyn: Ydy
Ydy e'n gwisgo esgidiau newydd?
Oes ganddo esgidiau newydd?
Pa gwestiwn sy'n gywir i'r ateb hyn: Nac oes
Ydy e'n chwarae pel droed heno?
Oes clwb pel-droed heno?
Pa gwestiwn sy'n gywir i'r ateb hyn: Naddo
A gofiodd Wil ei arian?
Oes arian gyda Wil?
Pa gwestiwn sy'n gywir i'r ateb hyn: Nac oes
Oes rhaid i ni ddysgu'r gan?
Ydw i'n gorfod dysgu'r gan?
Pa gwestiwn sy'n gywir i'r ateb hyn: Ie
Ai Marc yw dy enw?
Ydy Marc yma heddiw?
