Font size
WorksheetsDŵr
Total questions: 15
Worksheet time: 10mins
Dewiswch y sylweddau y byddech yn darganfod mewn dŵr afon
nwyon wedi hydoddi
ionau metelig e.e. Mg2+
mwd, llaid a thywod
halen
Tua faint o'r dŵr yn y byd sy'n ddŵr croyw?
3%
25%
10%
33%
Dewiswch y gweithgareddau sy'n addas ar gyfer defnyddio dŵr glaw
llenwi'r tanc yn y tŷ bach
golchi wyneb
golchi llestri
dyfrio'r ardd
Pa rhan o drin dŵr sy'n tynnu solidau mawr o'r dŵr?
Tanc gwaddodi
Hidlydd
Clorineiddiad
Fflworeiddio
Pa rannau o driniaeth dŵr sy'n angenrheidiol?
tanc gwaddodi
hidlydd
clorineiddio
fflworideiddio
Beth yw pwrpas clorineiddiad?
Lladd meicrobau yn y dŵr
Tynnu caledwch o'r dŵr
Lleihau pydredd dannedd
Adweithio gydag ionau peryglus fel plwm
Pa sylweddau sy'n achosi dŵr caled?
Calsiwm Hydrogen Carbonad
Magnesiwm Sylffad
Copr Carbonad
Magnesiwm Bromid
Gallwn gael gwared o galedwch dros dro, ond nid parhaol wrth (a) y dŵr
Dewiswch anfantais dŵr meddal
Mae angen llawer o sebon
Mae'n gwresogi'n llai effeithlon
Mae'n ffurfio llysnafedd e.e. yn y bath
Mae'n llai iachus (e.e. i'r galon)
Dewiswch fanteision dŵr caled
Mae'n dda i'r esgyrn
Mae'n gwresogi'n fwy effeithlon
Mae'n gallu atal cyrydiad
Mae angen mwy o sebon i ffurfio trochion (lather/swigod)
Pa ddull/iau sy'n gwaredu dŵr caled parhaol a dros dro?
Cyfnewid Ionau
Ychwanegu Soda golchi
Berwi'r dŵr
Distyllu
Pa frawddeg sy'n wir?
Mae berwi dŵr caled yn achosi dŵr caled dros dro i feddalu
Mae ychwanegu soda golchi yn cynhyrchu dŵr meddal gallwn ddefnyddio am unrhywbeth
Nid oes angen ail-lenwi cyfnewidydd Ionau
Mae distyllu yn gwahanu solidau anhydawdd wrth rhai hydawdd
Pa air sy'n golygu'r solid sy'n hydoddi?
Hydoddyn
Hydawdd
Hydoddydd
Hydoddiant
Beth yw'r term am hydoddiant sydd a'r macsimwm o'r solid wedi hydoddi?
(a)
Beth yw'r term am yr hylif sy'n gwneud yr hydoddi?
Hydoddyn
Hydoddydd
Hydoddiant
Hydawdd
